ELLIS, JOHN (1674 - 1735), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: John Ellis
Dyddiad geni: 1674
Dyddiad marw: 1735
Priod: Catherine Ellis (née Humphreys)
Plentyn: John Ellis
Rhiant: Jane Ellis (née Marsh)
Rhiant: Thomas Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Gildas Tibbott

Ail fab Thomas Ellis o Landegwning, Lleyn, a'i wraig Jane Marsh, gweddw Herbert Griffith, Brynodol. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 31 Mawrth 1690, ac efe'n 16 oed. Graddiodd yn B.A. yn 1693, yn M.A. (a'i wneuthur yn gymrawd o'r coleg) yn 1696, yn B.D. yn 1703, ac yn D.D. c. 1720. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 7 Medi 1707 ac yn offeiriad 4 Gorffennaf 1708. Cafodd reithoriaeth Llandwrog 30 Medi 1710 a'i benodi'n un o ganoniaid eglwys gadeiriol Bangor yn yr un flwyddyn. Rhoes y swydd olaf i fyny wrth dderbyn prebend Llanfair Dyffryn Clwyd ar 26 Mawrth 1713. Derbyniodd reithoriaeth Llanbedr-y-cennin ynghyd â ficeriaeth Caerhun, 24 Gorffennaf 1719. Priododd, 13 Mai 1720, Catherine, merch Richard Humphreys, Hendregwenllian, Penrhyndeudraeth, hanner-chwaer Humphrey Humphreys, esgob Bangor a Henffordd. Bu iddynt dri o blant; daeth un, John Ellis, LL.B., yn ficer Bangor ac yn archddiacon Meirionnydd, ond bu farw'r lleill yn eu babandod. Bu farw yn Llanbedr yng Ngorffennaf 1735; yng nghofrestr y plwyf hwnnw cofnodir ei gladdu ar y 12fed dydd o'r mis.

Yr oedd gan John Ellis gryn ddiddordeb mewn hynafiaethau. Cydnebydd Browne Willis y cymorth gwerthfawr a gafodd ganddo wrth baratoi A Survey of the Cathedral Church of Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.