ELLIS, ROWLAND (1650 - 1731), Crynwr a ymfudodd i America

Enw: Rowland Ellis
Dyddiad geni: 1650
Dyddiad marw: 1731
Priod: Margaret ferch Robert ab Owen
Priod: Margaret Ellis (née Morris)
Plentyn: Rowland Ellis
Rhiant: Anne Humphrey
Rhiant: Ellis ap Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn 1650 yn Bryn Mawr, plwyf Dolgellau, mab Ellis ap Rees. Priododd ddwywaith: (1) Margaret, merch Ellis Morris; (2) Margaret, merch Robert ab Owen. Ymunodd â'r Crynwyr c.1672, a chan ei fod yn gadarn yn y ffydd newydd bu raid iddo ddioddef erlid a charchar. Wedi i William Penn sefydlu Pennsylvania ar dir Brodorol anfonodd Ellis un Thomas Owen drosodd gyda'i deulu i ddewis lle i ymsefydlu ynddo. Ar 16 Hydref 1686 hwyliodd Ellis a'i fab Rowland a thua 100 o gymdogion o Milford Haven. Cyraeddasant Philadelphia ym mis Ebrill 1687, ac ymsefydlodd Ellis yn Bryn Mawr (Lower Merion wedi hynny). Wedi gorffen trefniadau i wneud hwn yn gartref newydd iddo dychwelodd i Gymru yn 1688, ac ymhen peth amser aeth yn ôl i Pennsylvania gydag aelodau eraill ei deulu. Gan ei fod yn ddyn o allu, wedi cael addysg dda, ac o deulu gweddol gefnog yng Nghymru, daeth yn amlwg ym mywyd cyhoeddus a chrefyddol y dalaith newydd. Yn 1700 fe'i dewiswyd i gynrychioli Philadelphia yn 'senedd' ei dalaith. Yr oedd yn weithiwr selog gyda'r Crynwyr, a dywedir y byddai'n gweinidogaethu iddynt yn yr iaith Gymraeg.

Cyfieithodd Annerch ir Cymru , 1721, llyfr Ellis Pugh wedi ei ddiwygio gan David Lloyd, yn Saesneg, a chyhoeddwyd ef yn Philadelphia yn 1727 o dan y teitl A Salutation to the Britains. Cafwyd argraffiadau yn Llundain yn 1732, 1739, a 1793. Efallai mai ei fab ROWLAND ELLIS a fu'n gwasnaethu'r 'Society for the Propagation of the Gospel …' fel ysgolfeistr yn Burlington, New Jersey.

Prynodd dir yn Plymouth, Pennsylvania, ac ymsefydlodd yno wedi iddo werthu ei dir yn Merion i’r caethiwydd Richard Harrison. Bu farw yn gynnar ym mis Medi 1731 yn nhŷ ei fab-yng-nghyfraith John Evans, yn Gwynedd, a chladdwyd ef yng nghladdfa'r Crynwyr yn Plymouth.

Y mae enw 'Bryn Mawr College for Women,' Pennsylvania, yn atsain o enw cartref Rowland Ellis yn Sir Feirionnydd.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.