ELLIS (TEULU), Bron y Foel ac Ystumllyn, Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon.

Rhestrir y teulu hwn o dan y cyfenw Ellis er mwyn hwylustod. Fel y gwelir, cynhyrchodd rai gwyr o bwys cyn i'r cyfenw gael ei gychwyn gan Owen Ellis (bu farw 1622). Hawliai'r aelodau ddisgyn o Gollwyn ap Tangno. Perthynai Meredydd, cyndad teulu Vaughan, Trawsgoed, Sir Aberteifi, i un gangen o'r teulu, a chyfrifai teulu Evans, Tanybwlch, Maentwrog, Iorwerth, o'r llinach hon, fel cyndad yn union fel y cyfrifid Ieuan, brawd Syr Howel y Fwyall, yn gyndad hen deulu Madryn, Sir Gaernarfon.

Priododd HOWELL AP MEREDYDD, Bron y Foel, Gwenllian, ferch Gruffydd ab Ednyfed Fychan. Aer y briodas oedd GRUFFYDD AB HOWEL. Ei aer ef, o'i wraig Angharad, oedd EINION AP GRUFFYDD, siryf sir Gaernarfon, 1354-6, a mab arall oedd Syr Howel y Fwyall. Dilynwyd Einion gan IEUAN AB EINION, siryf sir Gaernarfon, 1389, Ieuan gan HOWEL FYCHAN, Howel gan RHYS AB HOWEL, Rhys gan HOWEL AP RHYS. (Dyma'r gwr y mae Syr John Wynn yn rhoddi cymaint o le yn ei The history of the Gwydir family i adrodd hanes yr ymrafael ffyrnig rhyngddo a'i frawd-yng-nghyfraith, Ieuan ap Robert - aelod o deulu Cesailgyfarch, ac un o hynafiaid yr hanesydd.) Dilynwyd yr Howel ap Rhys hwn gan RHYS AP HOWEL, yntau gan THOMAS AP RHYS, a werthodd diroedd ei fam yn Hopesland, Sir y Fflint, ac a ddilynwyd gan CADWALADR AP THOMAS, tad ELLIS AP CADWALADR.

Gwraig ELLIS AP CADWALADR oedd Elin, ferch Owen Wynn ac Elin (Salesbury), Cae'r Melwr, ger Llanrwst; eu haer hwy oedd OWEN ELLIS I (bu farw 1622); canwyd marwnad iddo gan Gruffydd Phylip. Brawd i Owen Ellis oedd GRIFFITH ELLIS (bu farw 1667), a briododd Margaret (bu hithau farw yn 1667), ferch Ellis Wynn ap Robert, Rhwng-y-ddwyryd. Griffith a Margaret oedd enwau rhieni Thomas Ellis (bu farw 1673), rheithor Dolgellau, a Dr. John Ellis (bu farw 15 Hydref 1693), canghellor Llanelwy.

Trwy ei wraig, Dorothy, ferch John Wynn ab Humphrey, Cesailgyfarch, cafodd Owen Ellis I lawer o blant; yn eu plith yr oedd ELLIS ELLIS (bu farw 1631), Ystumllyn, a Robert Ellis (bu farw 8 Ebrill 1688), ' Groom of the Privy Chamber ' i Siarl II. Priododd Ellis Ellis Mabli, ferch William Lewis Anwyl, Park, Llanfrothen, a chael OWEN ELLIS II (profwyd ei ewyllys yn 1691). Pan briododd Owen Ellis II gydag Elizabeth, ferch John Bodwrda, canodd Gruffydd Phylip gywydd priodas iddynt. Dilynwyd Owen Ellis II gan ei ferch, MARGARET ELLIS (bu farw 1712), a gymerth GRIFFITH WYNN (bu farw 1719), Penyberth, yn wr; bu Griffith Wynn yn siryf sir Gaernarfon yn 1676. Daeth y stad maes o law yn eiddo i drydydd mab Margaret a Griffith Wynn, sef HUMPHREY WYNN (bu farw 1724), ficer Bosbury, Swydd Henffordd. Yn 1837 prynwyd y stad gan Rowland Jones, Broom Hall, gerllaw Pwllheli; aeth darlun o Syr Howel y Fwyall i Broom Hall hefyd.

Canodd tri o Phylipiaid Ardudwy gywyddau neu englynion i rai o'r Elisiaid. Soniwyd uchod am un gan Gruffydd Phylip; yma gellir ychwanegu iddo ganu cywydd ar eni Owen Ellis II ac englynion i ' Marged Ellis,' sef, y mae'n debyg, Margaret gwraig Griffith Ellis; gellir barnu ei bod yn wraig hynod o garedig. Y mae gan Gruffydd Phylip gân yn y mesur rhydd hefyd, ' Hiraeth y bardd am Ystumllyn,' sydd yn werth ei nodi; argraffwyd hi gan J. H. Davies yn Caniadau yn y Mesurau Rhyddion. Canodd Siôn Phylip, tad Gruffydd Phylip, gywydd i ganmol Owen Ellis I, a cheir dau gywydd gan Richard Phylip, brawd Siôn Phylip - un (1617) i ofyn i Owen Ellis I roddi rapier a pwynadwy ('poniard') i Owen Poole a'r ail pan fu Owen Ellis farw yn 1622.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.