EUDDOGWY (Oudoceus), sant, fl. yn niwedd y 6ed ganrif

Enw: Euddogwy
Rhiant: Anauued
Rhiant: Buddig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Un o esgobion cynnar Llandaf. 'Buchedd' a geir yn 'Llyfr Llandaf' yw yr unig ffynhonnell am ei fywyd. Dywed honno mai mab oedd Euddogwy i Buddig, tywysog Llydewig, ac Anauued, chwaer Teilo Sant. [Saif yr ail 'u' yn Anauued am 'f'.] Er cyflawni addewid, ymddiriedwyd Euddogwy i ofal ei ewythr, Teilo, a dychwelodd i Landaf gydag ef. Euddogwy ydoedd olynydd Teilo yn yr esgobaeth, a dywedir iddo dalu gwrogaeth i Gaergaint. Rhydd y gweddill o'r 'Fuchedd' ddisgrifiadau o daith Euddogwy i Rufain, o'r modd y symudodd greiriau o Dyddewi a Llandeilo Fawr i Landaf, ac o'r gwyrthiau a gyflawnwyd ganddo. Trwy gyfrwng un o'r gwyrthiau hyn, daeth i gyffyrddiad â Gildas Sant. Bu farw 2 Gorffennaf, a dethlid ei ŵyl ar y dydd hwnnw. Cyfansoddwyd 'Llyfr Llandaf' fel cyfanwaith yn y 12fed ganrif gyda'r bwriad o ychwanegu at safle a dylanwad esgobaeth Llandaf fel y'i had-drefnwyd hi gan y Normaniaid. Y mae'r ' Vita Beati Oudocei ' a'r un siarter ar hugain sydd yn ei ddilyn yn ffurfio gyda'i gilydd ran hanfodol o'r cynllun cyffredinol. Nid yw'r 'Fuchedd' o unrhyw werth hanesyddol, ac y mae'n frith o wallau amseryddol a ffugiadau amlwg. Asiwyd traddodiadau am ddau neu dri cymeriad gwahanol ynghyd, a gwneir Eudoce, esgob ym Morgannwg yn y 9fed ganrif, yn Euddogwy Sant trwy ei gyplysu â'r person a roddodd ei enw i Landogo yn sir Fynwy, yr unig eglwys sydd yn arddel Euddogwy fel ei noddwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.