EVANS, DAVID (fl. 1710?-45?), gweinidog Annibynnol cynnar yn y Welsh Tract, etc., Pennsylvania, ac awdur

Enw: David Evans
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol cynnar yn y Welsh Tract, etc., Pennsylvania, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Serch nad oes sicrwydd ddarfod ei eni yng Nghymru - dywed rhai awdurdodau ei fod yn fab i'r Parch. William Evans, Pencader, Sir Gaerfyrddin, a ymfudodd i'r America - caiff gyfeirio'n fyr ato yma am ei fod yn un o awduron Cymreig cynharaf yr America. Cyhoeddwyd tri llyfr, o leiaf, o'i waith, sef (a) A Help for Parents and Heads of Families … By David Evans, a Labourer in the Gospel at Tredyffren in Pennsylvania (Philadelphia, B. Franklin, 1732); (b) The Minister of Christ and his Flock … (Philadelphia, B. Franklin, 1732); a (c) Law and Gospel, or Man wholly Ruined by the Law and Recovered only by the Gospel. Being the Substance of some Sermons preached at Tredyffren in Pennsylvania in … 1734 and again at Piles-Grove in New Jersey in … 1742 (Philadelphia, B. Franklin and D. Hall, 1748). Bu am saith mlynedd yn gofalu am eglwys Pencader, Pennsylvania.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.