EVANS, DAVID (1744 - 1821), gweinidog y Bedyddwyr ym Maesyberllan.

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1821
Plentyn: John Evans
Plentyn: David Davies Evans
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd ger Aberporth, Sir Aberteifi, mab David Evans, pysgotwr. Bu'n gwasnaethu ar amryw ffermydd o 1754 hyd 1774. Anaml yr âi i gapel cyn iddo ddechrau mynychu capel Hawen (A) yn 1767. Gwrthododd ymuno â'r Annibynwyr a'r Methodistiaid, a mynnodd ei fedyddio yng Nghilfowyr yn 1770, pan oedd yn hwsmon y Ddolgoch, Troedyraur, ac fe'i cymhellwyd i bregethu 'n union. Wedi priodi yn 1774, cymerth dyddyn gerllaw eglwys Troedyraur. Urddwyd ef a John Richards yng Nghastellnewydd Emlyn, 1778. Ymwelodd â'r Gogledd dair gwaith ar ddeg o dan nawdd cenhadaeth y Bedyddwyr. O 1787 hyd 1817 gofalai am Faesyberllan a'i changhennau. Cychwynnodd achosion yng Ngherrigcadarn ac Aberhonddu. Cododd ddau o'i feibion, John a David Davies Evans, gweinidog Pontrhydyrynn i bregethu. Bu farw 24 Hydref 1821.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.