EVANS, DAVID (1773 - 1828), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1828
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 10 Mawrth 1773 yn y Dolau, sir Faesyfed, yn fab i David Evans (1740 - 1790), gweinidog y lle.

Pan ymadawodd olynydd ei dad, pwyswyd arno yntau i gymryd ei le, ac urddwyd ef 1 Tachwedd 1798. Cenhadai'n egnïol yn siroedd Henffordd a Maesyfed; gyda Kilpin, Llanllieni, ffurfiodd eglwys Kington. Adfywiodd eglwys y Roc. Bu'n ysgrifennydd cymanfa'r de-ddwyrain am 20 mlynedd.

Bu farw 30 Awst 1828.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.