EVANS, DAVID ('yr ail '; 1814 - 1847), gweinidog Wesleaidd

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1847
Priod: Elizabeth Evans (née Williams)
Plentyn: Annie Maria Evans
Plentyn: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 2 Mehefin 1814 yn Abercegir. Wedi iddo fod yn bregethwr cyflogedig yn Aberystwyth, derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1835, a bu'n efrydydd yn Sefydliad Diwinyddol Hoxton (1836-8). Gweinidogaethodd ar gylchdeithiau Aberteifi (1838), yr Wyddgrug (1840), Manceinion (1841), a Llanidloes (1844). Yn ystod ei dymor yn Llanidloes, bu'n oruchwyliwr y llyfrfa (1844) ac yn golygu 'r Eurgrawn Wesleyaidd (1845-6).

Brwydrodd ag afiechyd am flynyddoedd; pallodd ei iechyd i ddechrau yn ystod ei dymor yn Hoxton, ac ar ddiwedd ei dymor ym Manceinion gorfu iddo ymneilltuo o'r weinidogaeth reolaidd am flwyddyn (1843), a thrachefn ar derfyn ei dymor yn Llanidloes (Awst 1847). Priododd Elizabeth Williams, Aberystwyth, yn 1841, a ganed iddynt fab a merch (David ac Annie Maria). Cyhoeddodd Duwdod Priodol ein Harglwydd Iesu Grist (1840) i wrthweithio dylanwadau Undodaidd ar Wesleaid Abertawe; cyhoeddwyd ei draethawd ar ' Pechod Gwreiddiol ' yn Eurgrawn 1855. Bu farw yn Aberystwyth 12 Medi 1847.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.