EVANS, EDMUND (1791 - 1864), pregethwr Wesleaidd

Enw: Edmund Evans
Dyddiad geni: 1791
Dyddiad marw: 1864
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 9 Gorffennaf 1791 yn Aberdeunant, Llandecwyn, Sir Feirionnydd. Wedi maith yngyndynnu ymunodd â'r seiat Wesleaidd yn Rhagfyr 1815, gwnaed ef yn flaenor yn Ebrill 1816, a dechreuodd bregethu yn Chwefror 1818. Daeth yn bregethwr poblogaidd a dylanwadol yn fuan, ac adnabyddid ef fel 'Utgorn Meirion.' Gwrthododd alwad i fugeilio hen eglwys y Cilgwyn (1837) gan ddewis aros yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid. Bu am gyfnodau'n bregethwr cyflogedig ar wahanol gylchdeithiau, yn casglu at ddiddyledu capelau, ac yn ddiwygiwr teithiol dan nawdd cyfarfod taleithiol Gogledd Cymru. Cyhoeddodd ysgrifau yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, a golygodd gyfrol o bregethau, Dwfr y Bywyd (c. 1855). Bu farw 9 Hydref 1864.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.