EVAN(S), EDWARD (1716 - 1798), gweinidog Presbyteraidd, a bardd

Enw: Edward Evan (S)
Dyddiad geni: 1716
Dyddiad marw: 1798
Priod: Mari Evans (née Llewelyn)
Priod: Margaret Evans (née Thomas)
Plentyn: Rhys Evans
Plentyn: Edward Evans
Rhiant: Ifan ap Shon ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Llwydcoed, Aberdâr, ym Mawrth 1716 (efallai 1717), yn fab i Ifan ap Shôn ap Rhys, tyddynnwr a gwehydd. Wedi dilyn crefft ei dad am ysbaid, aeth yn brentis saer coed at Lewys Hopcyn (Lewis Hopkin), a dysgodd ganddo hefyd brydyddu ar y mesurau caethion. Yn 1749 aeth i fyw i'r Ton Coch uwchben plas Dyffryn Aberdâr. Tua 1748, yr oedd wedi ymuno â chynulleidfa Ymneilltuol Cwm-y-glo, a phan gorfforwyd eglwys ar wahân ar odre Aberdâr (yr ' Hen Dŷ Cwrdd,' heddiw), daeth yn aelod blaenllaw ohoni, ac yn bregethwr. Datblygodd ei syniadau diwinyddol tua'r aswy, i Arminiaeth ac wedyn i Ariaeth. Ar 1 Gorffennaf 1722, urddwyd ef yn weinidog ar yr Hen Dŷ Cwrdd, a pharhaodd yn fugail arni hyd 1796. Bu farw 1 Mehefin 1798, a chladdwyd ef ym mynwent y llan yn Aberdâr. Bu'n briod ddwywaith; yn gyntaf (1744) â Margaret Thomas o Benderyn, a fu farw Ebrill 1774, a'r eilwaith (tua 1776) â Mari Llewelyn o'r Rhigos (bu farw 1824) - o'r briodas hon bu dau fab, EDWARD (1776? - 1862) a RHYS (1779 - 1876); yr oedd Rhys yn gryn dipyn o lenor ac eisteddfodwr.

Yn ystod ei fywyd, cyhoeddodd Edward Evan Catecism Samuel Bourn (cyf.), 1757; Llyfr y Pregethwr, cyfieithiad ar fesur cywydd, ganddo ef a Lewys Hopcyn, 1767; a Pregeth, 1775. Wedi ei farw, cyhoeddwyd peth o'i waith barddonol dan y teitl Caniadau Moesol a Duwiol (Merthyr Tydfil), 1804; argraffiadau diweddarach (a helaethedig), dan y teitl Afalau'r Awen, yn 1816 a 1837 (Merthyr Tydfil), a 1874 (Aberdâr). Yr oedd Edward Evan yn ffigur pur bwysig yn natblygiad prydyddiaeth gaeth ym Morgannwg; ac y mae rhyw awgrym hefyd ei fod yn flaengar yn ei opiniynau gwleidyddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.