EVANS, WILLIAM EILIR ('Eilir '; 1852 - 1910), clerigwr a bardd

Enw: William Eilir Evans
Ffugenw: Eilir
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1910
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd 26 Ebrill 1852 yn y Garreg Lwyd, Cenarth, Sir Gaerfyrddin. Annibynnwr ydoedd, ac aeth fel myfyriwr i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Troes at Eglwys Loegr yng Nghymru, a mynd yn 1878 i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Daliodd rai bywiolaethau, ond ni fu ryw lawer o lun arno fel offeiriad. Bu'n gurad yn Llanfaelog (Môn), Devizes, ac Aberdâr. Bu hefyd yn ysgolfeistr, am ychydig yn athro ac yn gaplan yn ysgol ramadeg Stratford-on-Avon. Yn 1889, golygai'r Carmarthen Journal; aeth yn 1891 i Abertawe, ac yn 1894 i Gaerdydd, lle y bu am 13 mlynedd ar staff y Western Mail, ac ar brydiau'n gwasanaethu yn Eglwys Dewi Sant. O 1907 ymlaen bu'n gurad yn Llancarfan.

Yr oedd yng Nghastellnewydd Emlyn yn y cyfnod hwnnw gylch o feirdd fel ' Emlynydd,' ' Myfyr Emlyn,', ' Rhys Dyfed,' ac eraill, a chychwynnodd W. Eilir Evans tan eu dylanwad farddoni yn ifanc a chystadlu yn eisteddfodau'r ardal. Enillodd y gadair yn eisteddfod Deheudir Cymru yn Aberteifi, 1878, ar awdl ar ' Gwareiddiad,' ac argraffwyd hi yn 1884. Cyfieithodd Essay on Criticism (Pope) yn Gymraeg yn Yr Haul, ac ' Elegy in a Country Churchyard ' (Gray). Cyhoeddodd gerddi ac erthyglau yn Y Byd Cymreig (papur a argraffwyd yng Nghastellnewydd Emlyn), Y Geninen, Y Traethodydd, Yr Haul, Y Dywysogaeth, Celt Llundain, Papur Pawb, The Aberystwyth Observer, a phapurau eraill. Yn 1910 cyhoeddodd gasgliad o'i erthyglau a'i gerddi, Rhyddiaith a Chân. Bu farw 7 Rhagfyr 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.