Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , DAVID EMLYN ( 1843 - 1913 ), cerddor .

G. 21 Medi 1843 yn Castellnewydd Emlyn , mab Evan Evans ( 1817 - 1902 ) a'i wraig Mary ( 1816 - 1884 ) a gladdwyd ill dau yn hen fynwent Tre-wen , Cwm-cou, Cer. Yr oedd mam Evan Evans (g. Peregryn ) o linach Huguenot ac yn disgyn o deulu Francis , Dinas Ceri a Chwmsylltyn ac yn berthynas i Enoch Francis ( 1688/9 - 1740 ) a bu ei dad yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797 , a chedwid y cledd a ddefnyddiodd ger y lle tân yng nghegin Brynderwen , Castellnewydd Emlyn . Cymerodd Evan Evans ran yn Helynt Beca , gan ddefnyddio cleddyf ei dad. Bu'n oruchwyliwr yng ngwaith dur Cyfarthfa . Arferai fynychu arwerthiannau mewn hen dai a ffermdai a chasglodd lyfrgell dda.

Prentisiwyd Emlyn Evans gyda dilledydd . Dechreuodd ei efrydiau gyda chymorth yr ychydig lyfrau Cymraeg ar gerddoriaeth y gellid eu cael ar y pryd a chael gwersi yn achlysurol gan John Roberts (‘ Ieuan Gwyllt ’) . Enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau am gyfansoddi. Daeth yn drafaeliwr dros ffyrm, gan barhau i roddi sylw i gyfansoddi , beirniadu , a beirniadaeth, serch bod ei iechyd yn fregus a'i fod yn gorfod teithio llawer. Ymysg ei lu cyfansoddiadau y mae llawer o ganeuon, anthemau, canigau, rhanganau, a thonau — daeth y tonau ‘ Trewen ’ ac ‘ Eirinwg ’ yn bur adnabyddus mewn cylchoedd Cymreig . Cyfansoddodd dri gwaith gweddol hir i gorau — ( a ) ‘ Y Tylwyth Teg ,’ opereta yn defnyddio melodïau Cymreig , ( b ) ‘ Gweddi'r Cristnogion ,’ cantata, a ( c ) ‘ Y Caethgludiad ,’ gwaith mwy uchelgeisiol ar ffurf oratorio. Trefnodd ‘ Ystorm Tiberias ,’ gan Edward Stephen (‘ Tanymarian ’) , yr oratorio Gymraeg gyntaf, ar gyfer cerddorfa. Fel golygydd a beirniad gwnaeth Emlyn Evans gyfraniad pwysig i gerddoriaeth yng Nghymru . Bu iddo ran yng ngolygyddiaeth Y Gerddorfa , 1872 , Y Cerddor , 1880-1913 , ac amryw lyfrau tonau, gan gynnwys Y Caniedydd Cynulleidfaol , 1895 , Y Salmydd , a Llyfr Tonau y Wesleyaid . Golygodd a chynganeddodd dros 500 o alawon Cymreig traddodiadol a gasglwyd gan Nicholas Bennett , a'u cyhoeddi wedi hynny a dan y teitl Alawon fy Ngwlad ; golygodd hefyd draethawd bywgraffyddol gwobrwyedig M. O. Jones ar gerddorion Cymreig — sef Bywgraffiad Cerddorion Cymreig . Dylanwadodd ei erthyglau yn y Wasg ( Musical Times , South Wales Weekly News , etc.) yn fawr ar gerddoriaeth Cymru . Yr oedd yn llawdrwm ar yr arferiad o gyfansoddi canigau ar gyfer cystadleuaethau mewn eisteddfodau yn unig ac ar y diffyg dewis a chwaeth a oedd yn bod mewn cysylltiad â chaniadaeth emynau yng Nghymru . Cyhoeddodd werslyfr, Llawlyfr ar Gynghanedd , a fu'n bur llwyddiannus. Bu f. 19 Ebrill 1913 , yng Nghastell-newydd-Emlyn , a chladdwyd 24 Ebrill , yn Llandyfriog ..

Ffynonellau:

  • E. Keri Evans , Cofiant D. Emlyn Evans , 1919 ;
  • Western Mail , 22 Ebrill 1913

Awduron:

Yr Athro David Ewart Parry Williams, D.Mus., (1900-96), Bangor

Emrys Peregryn Evans (1898-1981), Llundain

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54