EVANS, JOHN GWENOGFRYN (1852 - 1930), gweinidog Undodaidd, golygydd testunau Cymraeg cynnar ac arolygydd llawysgrifau Cymraeg

Enw: John Gwenogfryn Evans
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1930
Priod: Edith Evans (née Hunter)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd, golygydd testunau Cymraeg cynnar ac arolygydd llawysgrifau Cymraeg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn Ffynnon Felfed, plwyf Llanybyddair, Sir Gaerfyrddin, 20 Mawrth 1852, ond gan i'w deulu symud i fferm Caedabowen, Llanwennog, pan oedd ef tua blwydd oed, fel brodor o Geredigion yr edrychai arno'i hun. Addysgwyd ef mewn ysgolion lleol yn Llanybyddair, Llanwennog, a Llanwnnen, ac yn ysgol ramadeg Rhydowen, Pontsiân, o dan Thomas Thomas. Bu'n brentis am tua phedair blynedd i'w ewythr, David Rees, Eurfaen Hall, Llanbedr-Pont-Steffan, groser. Yn 18 oed, ar ôl damwain, ailgydiodd yn ei yrfa addysgol o dan William Thomas ('Gwilym Marles') yn Llandysul ac Alcwyn Caryni Evans yng Nghaerfyrddin, gan baratoi at fyned i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, lle y bu'n fyfyriwr o 1872 i 1874 ac yn 1875-6. Treuliodd 1874-5 fel athro cynorthwyol yng Ngholeg Miltwn, Ullesthorpe. Yn Awst 1876 ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Undodiaid yng nghapel Parc-y-felfed, Caerfyrddin, fel olynydd i'r Parch. Stephenson Hunter, prifathro 'r Coleg Presbyteraidd (bu farw 1875). Bu'n fugail yno tan fis Medi 1877, pryd y symudodd i ofalu am eglwys yn Preston. Yn 1877 priododd Edith (bu farw 1923), merch y prifathro Hunter. Bu raid iddo roi ei ofalaeth i fyny, oherwydd colli ei lais, yn Chwefror 1880. Tanseiliesid ei iechyd gan gyfres o ymosodiadau'r dwymyn ' typhoid ' yn ei lencyndod, a bu raid iddo frwydro yn erbyn afiechyd drwy gydol ei oes. Ymaelododd yng Ngholeg Owen, Manceinion, ond yn haf y flwyddyn honno symudodd i Rydychen, lle y bu'n byw am fwy nag 20 mlynedd. Gwaethygodd ei iechyd. Ar gyngor meddygol, aeth ar fordaith i Awstralia, ac ar ei ffordd yn ôl cafodd ei brofiad golygyddol cyntaf ar gylchgrawn y teithwyr a elwid yn Homeward Bound. Toc wedi cyrraedd adref gorchmynwyd iddo fyned i Davos Platz, lle y bu am rai misoedd. Yn Rhydychen âi i ddosbarthiadau (Syr) John Rhys, a symbylwyd ef gan ddarlithiau ei athro ar y Mabinogion, a seiliesid ar argraffiad Charlotte Guest, i astudio a chopïo'r testunau cynnar yn ' Llyfr Coch Hergest.' Ar sail ei ddefnydd o ffynonellau gwreiddiol enillodd y wobr yn yr eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yn Lerpwl, 1884, am gasgliad o ddiarhebion Cymraeg (arg. yn Y Transactions, Lerpwl, 1885). O'r pethau hyn y cododd y syniad am y gyfres testunau Cymraeg a ddaeth yn un o'i gyfraniadau nodedig at dwf astudiaethau ieithyddol a llenyddol Cymraeg. Ymddangosodd cyfrol gyntaf y gyfres yn 1887, ac ar y dechrau cydnabuwyd cydweithrediad John Rhys mewn enw ar y dalennau teitl. Torrodd y gyfrol hon dir newydd mewn atgynhyrchu llawysgrifau'n ddiplomatig drwy gyfrwng dyfeisiau teipograffyddol, a chyflwynwyd iddo radd anrhydeddus M.A. (Rhyd.) yn yr un flwyddyn. Yn 1903 rhoddwyd iddo radd anrhydeddus D.Litt. yr un brifysgol, ac yn 1905 dilynwyd yr esiampl gan Brifysgol Cymru yn cyflwyno iddo radd D.Litt., er anrhydedd. Yn 1893 rhoddwyd iddo bensiwn y rhestr sifil (£200), a'r flwyddyn wedyn apwyntiwyd ef yn arolygydd dogfennau Cymraeg i'r ' Historical MSS. Commission,' swydd a ddaliodd hyd 1906. Erys ei Reports on MSS. in the Welsh Language, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol o saith rhan gan H.M.S.O. rhwng 1898 a 1910, yn agoriadau anhepgor i feysydd llenyddiaeth Gymraeg y llawysgrifau, a dyma'i ail gyfraniad arbennig i ddatblygiad astudiaethau Cymreig. Galluogwyd ef gan ei ddyletswyddau fel arolygydd llawysgrifau i gymryd rhan flaenllaw yn y trafodaethau amyneddgar dros gyfnod o saith mlynedd a esgorodd ar werthu etifeddiaeth llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams, 28 Chwefror 1905, ac a fu'n gam pwysig i sicrhau lleoli'r llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth. O 1896 bu'n aelod gweithgar ar bwyllgor Llyfrgell Gymraeg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a fu'n llafurio i sefydlu'r llyfrgell genedlaethol. Enwir ef yn siarter y llyfrgell genedlaethol, 19 Mawrth 1907, ymhlith y perchnogion llyfrau a llawysgrifau a oedd yn barod i drosglwyddo'u casgliadau i'r llyfrgell ar y telerau ei bod i'w sefydlu a'i chadw yn Aberystwyth. Erbyn hyn yr oedd ef wedi ymsefydlu mewn neilltuaeth yn Tremvan, tŷ a gynlluniasai ef ei hun, ger Llanbedrog, lle y bu'n argraffu testunau Cymraeg ar ei wasg law fechan ac yn ffermio. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a enwyd gan y Cyngor Cyfrin fel ei gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol, a chadwodd ei le hyd ei farw. Yr oedd hefyd yn aelod o Lys Llywodraethwyr a Chyngor Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yn ustus heddwch yn Sir Gaernarfon o 1910. Bu farw 25 Mawrth 1930, a chladdwyd ef mewn bedd a ddarparasai iddo'i hun a'i wraig mewn craig yn ymyl ei gartref yn Llanbedrog. Gadawodd ddau fab a merch. Yn ei flynyddoedd olaf rhoes fwy o'i ynni ar ddehongli'r testunau Cymraeg nag ar eu hatgynhyrchu. Nid oedd ei ddamcaniaethau yn cydredeg â datblygiad cyffredinol ysgolheictod Cymraeg. Fe'u gwelir ar waith yn yr adolygu eithafol a wnaeth ar destunau Aneirin a Thaliesin cyn eu cyfieithu i Saesneg, ac yn Y Cymmrodor, xxxiv ('Taliesin, or the Critic Criticised'), ei ateb yn 1924 i ' Taliesin ' Syr John Morris-Jones (Y Cymmrodor, 1918).

Nid yw manylion llyfryddiaeth ei gyfres testunau Cymraeg wedi eu gweithio allan eto, ond gellir cynnig y rhestr hon (y dyddiadau mewn [ ] yn cynrychioli diffyg cytundeb rhwng y dyddiadau ar y dalennau teitl ac union flynyddoedd eu cyhoeddi): I, The Text of the Mabinogion … from the Red Book of Hergest … Rhydychen, 1887; [II], Facsimile of the Black Book of Carmarthen … Rhydychen, 1908; [III], The Texts of the Bruts … Rhydychen, 1890; IV, The Text of the Book of Llan Dâv … Rhydychen, 1893; V, The Black Book of Carmarthen … Pwllheli, 1906 (arg. myfyrwyr 1907); VI, Facsimile of the Chirk Codex … Llanbedrog, 1909 [ 1920 ]; VII, The White Book Mabinogion … Pwllheli, 1907 [ 1909 ]; VIII, The Text of the Book of Aneurin … Pwllheli, 1908 [ 1910? ]; IX, The Text of the Book of Taliesin … Llanbedrog, 1910; Facsimile and Text of the Book of Taliesin … Llanbedrog, 1910 [ 1916 ]; IX B, Poems from the Book of Taliesin amended and translated … Llanbedrog, 1915 [ 1916 ]; [X], Kymdeithas Amlyn ac Amic … Llanbedrog, 1909; XI, The Poetry in the Red Book of Hergest … Llanbedrog, 1911; The Book of Aneirin revised and translated, Vol. ii … Llanbedrog, 1922 [ 1924 ] (arg. myfyrwyr, Aberystwyth, 1934 [ sic ]; Poetry by Medieval Welsh Bards … Vol. ii, Llanbedrog, 1926. (Yn rhifau I, [III], a IV ceir enw John Rhys hefyd ar y ddalen deitl.) Cynlluniodd gyfres ' Welsh Classics for the People,' ond ni chyhoeddodd ond Llyvyr Iob … Rhydychen, 1888, a Pedeir Kainc y Mabinogi, Breuddwyd Maxen, Lludd a Llevelys … Rhydychen, 1897 a 1905. Cyhoeddwyd Oll Synnwyr Pen, a fwriadwyd ar gyfair y gyfres hon, gan Urdd y Graddedigion (Bangor, 1902). Wedi ei farw trosglwyddwyd stoc ei gyhoeddiadau i'r Llyfrgell Genedlaethol, a gosodwyd ei lawysgrifau a detholiad o'i lyfrau i'w cadw yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.