EVANS, EVAN HERBER (1836 - 1896), gweinidog Annibynnol a phrifathro coleg diwinyddol

Enw: Evan Herber Evans
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol a phrifathro coleg diwinyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Pant-yr-onnen, ger Castellnewydd Emlyn, 5 Gorffennaf 1836. Cafodd addysg fore oes yng Nghastellnewydd Emlyn, Pont Sely, a Llechryd. Bu'n gweini mewn siopau dillad yn Rhydlewis, Pontypridd, Merthyr Tydfil, a Lerpwl. Yn Lerpwl, daeth i gyfathrach agos â Dr. John Thomas. Ar ei gymhelliad ef ac eglwys y Tabernacl, dechreuodd bregethu yn 1857; bu am dymor yn y Coleg Normal, Abertawe, ac yng Ngholeg Aberhonddu, 1858-62. Ordeiniwyd ef yn Libanus, Treforus, 25 a 26 Mehefin 1862, yn olynydd Thomas Jones, un o bregethwyr enwocaf ei oes. Symudodd, 1865, i Salem, Caernarfon, lle y treuliodd weddill ei oes fel gweinidog hyd Rhagfyr 1892, pryd y penodwyd ef yn brifathro Coleg Bala-Bangor yn olynydd i Thomas Lewis. Bu'n hwyrfrydig i dderbyn y brifathrawiaeth ac wedi gweld na allai gadw ymlaen mewn dwy swydd y rhoddodd heibio ei ofalaeth yn Salem, Caernarfon. Dechreuodd ar ei waith ym Mangor yn Ionawr 1893, a thraddododd ei bregeth ymadawol yn Salem ar 25 Chwefror 1894. Bu farw 30 Rhagfyr 1896.

Enillodd ei blwyf fel un o bregethwyr amlycaf ein cenedl yn gynnar yn ei weinidogaeth. Cymerth ran flaenllaw ym mudiadau addysgol, cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol ei genedl. Am ei wasanaeth i addysg a sefydliadau dyrchafol, dyrchafwyd ef yn ustus heddwch. Derbyniodd anrhydedd uchaf ei enwad yng Nghymru a Lloegr - cadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1886 a chadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1892. Pregethwr ydoedd yn gyntaf, yn olaf, ac yn bennaf. Ni fu cymaint o alw ar neb arall yn ei gyfnod fel darlithydd a phregethwr. Yr oedd yn olyniaeth 'Hiraethog' fel darlithydd. Yn ei ddarlithiau, ar Livingstone a Cromwell, cafwyd patrwm o arddull areithio pur; yn ei bregethu, patrwm o ddawn huawdl, eneiniedig - y rhywogaeth o ddawn sydd yn ysgwyd cynulleidfa. Ceid llawer o nodweddion Spurgeon a Moody yn ei bregethau. Dewiswyd ef yn un o olygyddion Y Dysgedydd yn 1874; bu'n olygydd y cyhoeddiad o 1880 hyd ei farwolaeth. Bendith fwyaf ei flynyddoedd olaf oedd ei wasanaeth i'w enwad wrth ymgymryd â bod yn brifathro Coleg Bala-Bangor. Bu'n darlithio ar 'Bregethu' yn y coleg (1889-93), ac yn brifathro 1893-6. Mawr oedd ei ofal dros y myfyrwyr, a'i holl fryd ar eu cymhwyso yn yr alwedigaeth yr oedd ef ei hun yn addurn iddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.