EVANS, HUGH (? - 1656), Bedyddiwr Cyffredinol

Enw: Hugh Evans
Dyddiad geni: ?
Dyddiad marw: 1656
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Bedyddiwr Cyffredinol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Nid oes fanylion am ei fywyd cynnar; rai blynyddoedd cyn y Rhyfel Cartref yr oedd yn brentis dilledydd yn Worcester. Symudodd i Coventry, ac aeth i fyny i Lundain i weled Jeremiah Ives, gweinidog cynulleidfa'r Old Jewry, un o brif achosion yr Arminiaid, a daeth y ddau i lawr i Gymru (o gwmpas 1646), yn llawn o efengyl newydd prynedigaeth gyffredinol (Bedyddwyr digon caeth, serch hynny). Prif faes eu llafur oedd sir Faesyfed, plwyfi Llanhir, Cefnllys, Nantmel, a Llanddewi Ystradenni; hefyd, croesent rannau uchaf Gwy i bregethu ym Mrycheiniog. Dychwelodd Ives i Loegr, ond daliai Hugh Evans i daenu ei syniadau, gyda chymorth hanner dwsin o bregethwyr eraill, hyd ei farw yn 1656. Cryfheid y Bedyddwyr Arminaidd hyn gan Gyffes Ffydd 1651 a osodai'r ' Midlands ' a Chymru o dan yr un cwlwm, a chan y cyflogau a delid i rai o'r arweinwyr fel pregethwyr teithiol o dan Ddeddf y Taeniad (bu un ohonynt, John Prosser, yn ysgolfeistr Piwritanaidd yn Nhalgarth am gyfnod). Tarfwyd hwy'n drist gan y Crynwyr bore, ac ymosododd Cwacer o'r enw John Moon yn ffyrnig iawn ar yr Arminiaid mewn pamffled; atebwyd ef yr un mor ffyrnig gan ddau o ddilynwyr Hugh Evans - The Sun Outshining the Moon - ac yn hwnnw y ceir yr hanes mwyaf awdurdodedeg am fywyd a gweithgarwch Hugh Evans ac Arminiaid cynnar Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.