EVANS, JAMES (1866 - 1931), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: James Evans
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1931
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 16 Ebrill 1866 yn Ystalyfera, a magwyd yn Annibynnwr, ond wedi marw ei dad symudodd ei fam a'r teulu i'r Tonna, ac ymuno (pan oedd ef yn 13 oed) â'r Methodistiaid Calfinaidd. Aeth i weithio yng ngwaith alcam Aberdulais; dechreuodd bregethu, ac aeth i Drefeca yn 1891. Bu'n weinidog (1895-1900) ym Mhontarddulais, ym Methel Aberhonddu (1900-10), ac yn Suffolk Street, Birmingham, o 1910 hyd ei farw (ym Mhontypŵl), 1 Awst 1931, yn ddibriod. Ymddangosai yn swrth a didaro, ond yr oedd ei feddwl yn hynod effro a'i ymadrodd yn hynod ffraethlym. Ar waethaf diffygion ei addysg, tyfodd yn ysgolhaig a llenor da; ac ar waethaf ei gyswllt maith â'r Methodistiaid Calfinaidd, odid nad ei Annibyniaeth fore a orfu fwyaf arno. Enillodd radd ym Mhrifysgol Dulyn, 1905, gydag anrhydedd (a gwobr) mewn athroniaeth. Sgrifennai i'r Traethodydd a'r Hibbert Journal, a chyhoeddwyd cyfrol fechan ganddo ar Foeseg (1928) gan Brifysgol Cymru. Yn Birmingham, cyfrannodd nifer mawr o ysgrifau ar lenyddiaeth a phynciau cyffredinol i newyddiaduron y ddinas; casglwyd nifer o'r rhain yn gyfrol, A Bookman in the Making, 1934, gyda rhagair gan J. Young Evans.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.