EVANS, WALTER JENKIN (1856 - 1927), prifathro Coleg Caerfyrddin

Enw: Walter Jenkin Evans
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Rachel Evans (née Jeremy)
Rhiant: Titus Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Coleg Caerfyrddin
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 1 Ebrill 1856 yn nhref Caerfyrddin, mab i'r Parch. Titus Evans, ac ŵyr i'r Parch. John Jeremy, Caeronnen. Fe'i haddysgwyd yn academi Parc-y-felfed, yn ysgol ramadeg Caerfyrddin lle yr enillodd y brif ysgoloriaeth, Coleg Caerfyrddin (1870-3), Coleg Iesu, Rhydychen (1873-7; B.A. ac M.A.), a Manchester College (Rhydychen) (1876-8), o dan James Martineau. Canfu na fwriedid iddo fod yn bregethwr, ac yn ystod 1879-84 bu'n athro yn Brighton a Llundain. Apwyntiwyd ef yn 1884 yn athro Groeg a Lladin yn ei hen goleg, Caerfyrddin, ac yn 1888 yn brifathro y coleg hwnnw. Yr oedd yn ysgolor a gŵr bonheddig. Yn ystod ei gyfnod maith fel prifathro daeth â'r coleg a'r Brifysgol yn agos at ei gilydd. Cyhoeddodd ymchwil fanwl i farddoniaeth Ladin, ond hwyrach mai fel croniclydd manwl a hanesydd ei enwad y'i cofir hwyaf. Gwyddys am ei erthyglau ar hanes Coleg Caerfyrddin yn Yr Ymofynnydd ac yn y Lloyd Letters. Ceir ganddo fywgraffiadau o'r myfyrwyr Undodaidd yng Nghaerfyrddin yn Oriel Coleg Caerfyrddin, ac erthyglau ar hanes Undodiaeth yn nhref Caerfyrddin yn y Christian Life, 1916. Y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol chwech cyfrol drwchus o fywgraffiadau o fyfyrwyr y coleg a'i nodiadau ar hanes yr enwad. Ysgolor tawel ydoedd ac athro yn anad dim, a gwelir gofal manwl yr athro ar bob dim o'i waith. Bu farw 10 Chwefror 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.