EVANS, DAVID MEYRICK (1827 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Llanelli;

Enw: David Meyrick Evans
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1870
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 30 Tachwedd 1827 yn Llundain; symudodd gyda'i rieni'n llanc bychan i dyddyn yn ardal Tregaron, Ceredigion. Dechreuodd bregethu yn Swyddffynnon tua 1834. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig, athrofa Accrington, a Phrifysgol Glasgow. Bu'n weinidog yn Grosvenor Street, Manceinion (1851-8), a Greenfield, Llanelli (1858-70). Golygodd y Llanelly Telegraph, 1860-7. Cyhoeddodd Christmas Evans: a Memoir. Bu farw 31 Ionawr 1870.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.