Priododd Margaret , merch Walter Walters , Hendre , Ceredigion . Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig , ac yn 1845-6 aeth i Goleg Dewi Sant , Llanbedr . Yno penodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg yn 1847. Wedi gadael Llanbedr yn 1848 , ordeiniwyd ef yn ddiacon a phenodwyd ef yn gurad Llandegwning yn Llŷn ; ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1849 . Golygodd Elfennau Gallofyddiaeth yn 1850 ac Elfennau Seryddiaeth yn 1851 . Yn 1847 cychwynnodd gyhoeddi An English and Welsh Dictionary ; cwplawyd y gyfrol gyntaf yn 1852 , a'r ail yn 1858 . Cyhoeddodd argraffiad o Y Bardd Cwsc yn 1853 , a thrydydd argraffiad o gyfieithiad Edward Samuel o De Veritate Grotius yn 1854 , dan y teitl Gwirionedd y Grefydd Gristionogol Yr oedd yn olygydd Y Brython o 1858 hyd 1860 .
Yn 1852 penodwyd ef yn gurad Llangian , yn Llŷn , lle y bu hyd 1862 . Ysgrifennodd erthyglau i Y Gwyddoniadur hyd 1856 , y flwyddyn y cyhoeddodd ei gyfrol fechan, Llythyraeth yr Iaith Gymraeg . Yn 1862 penodwyd ef i fywoliaeth Llan-ym-Mawddwy , ac yno, rhwng 1866 ac 1869 , y golygodd Gwaith Walter Davies ( ‘ Gwallter Mechain ’ ), yn dair cyfrol. Yr oedd eisoes wedi golygu Y Marchog Crwydrad: Hen Ffuglith Gymreig , yn 1864 , ac ailargraffiad o Y Bardd Cwsc yn 1865 . Yn 1868 ysgrifennodd gyfieithiadau i lyfr Skene , The Four Ancient Books of Wales . Golygodd Cambrian Bibliography ‘ Gwilym Lleyn ’ yn 1869 , ac ymddangosodd tair cyfran o'i eiddo i atodiad ar y cyhoeddiad hwn yn Revue Celtique rhwng 1870 ac 1875 , ond nis cwplawyd. Yn 1870 ysgrifennodd gyfran o'r fersiwn Gymraeg i lyfr o ffurf-weddïau Pabyddol yn y Llydaweg , Liherieu hag Avieleu , a bu'n golygu Archaeologia Cambrensis o 1871 hyd 1875 .
Yn y flwyddyn 1876 dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanwrin , ac yno y bu y gweddill o'i oes. Golygodd waith Thomas Stephens , Literature of the Kymry, Gwaith y Parchedig Evan Evans (‘ Ieuan Brydydd Hir ’), a chydolygodd Llyfr Gweddi Gyffredin gyda Dr. Saunders a'r Deon Howell yn 1876 . Yn 1878 golygodd Celtic Remains Lewis Morris ; yn 1882 cyhoeddodd — gyda John Jones (‘ Ivon ’) — Ysten Sioned neu Y Gronfa Gymmysg , ac yn 1883 bu'n golygu Athrawiaeth yr Eglwys yn Wirionedd y Bibl.
Anrhydeddwyd ef â'r radd o B.D. gan Goleg Llanbedr yn 1868 . Yn 1873 penodwyd ef yn arholwr yn y Gymraeg yn Llanbedr , ac yn 1875 yn athro Cymraeg gan Goleg y Brifysgol , Aberystwyth , swydd a ddaliodd o 1878 hyd 1884 fel athro rhan-amser .
Eilbeth oedd ei gynnyrch golygyddol i'w ddiwydrwydd geiriadurol am gyfnod o 30 mlynedd; cyhoeddwyd ffrwyth ei lafur ym mhedair cyfrol ei Eiriadur Cymraeg rhwng 1887 ac 1896 . Yn ystod y saith-degau cynnar ymwrthododd yn raddol â syniadau William Owen-Pughe oherwydd ei gyfathrach ag amryw ysgolheigion ieuainc y bu i'w disgyblaeth wyddonol adael ei hargraff yn drwm arno; ymhlith y rhain yr oedd John Peter (‘ Ioan Pedr ’) [q.v.] , John Rhys [q.v.] , a J. Gwenogfryn Evans [q.v.] .
Drwy gymwynas Benjamin Williams (‘ Gwynionydd ’) [q.v.] , periglor Llanofer , cydsyniodd yr arglwyddes Llanofer i dalu rhan o dreuliau cyhoeddi'r geiriadur Cymraeg . Ymddangosodd y rhan gyntaf yn 1887 , ond ni chwplawyd y gyfrol gyntaf — hyd y llythyren C — hyd 1893 . Cyhoeddwyd cyfran gyntaf yr ail ran yn 1896 . Yn 1898 ymddangosodd ei Telyn Dyfi: Manion ar Fesur Cerdd .
Yn gydnabod am ei waith geiriadurol derbyniodd Silvan Evans fathodyn Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1897 , ac etholwyd ef gan Goleg Iesu , Rhydychen , i gymrodoriaeth o £100 y flwyddyn am dair blynedd. Sicrhawyd hefyd rodd iddo, ar draul y Goron , i'w gynorthwyo i gwpláu ei waith. Yn 1901 rhoes Prifysgol Cymru iddo'r radd anrhydeddus o D.Litt. Daeth anrhydeddau eglwysig hefyd i'w ran; yn 1888 etholwyd ef yn ganon anrhydeddus ym Mangor , yn brebendari Llanfair yn 1891 , yn ganghellor Bangor yn 1895 , ac yn gaplan i esgob Bangor yn 1899 .
Ni chwplaodd y geiriadur er bod y rhan fwyaf o'r deunydd yn barod, oherwydd bu f. 13 Ebrill 1903 . Cyhoeddwyd y bumed ran, a'r olaf, o'r gwaith yn 1906 — hyd y llythyren E — gan Walter Spurrell .
Daeth trallodion blin i ran Silvan Evans . Bu farw tri mab a thair merch cyn 1887 , ac yn 1889 lladdwyd ei briod mewn damwain . Rhoes yr unig fab a'i goroesodd, J. H. Silvan Evans , gŵr gradd o Goleg Iesu , Rhydychen , ei amser llawn i'r gwaith o gyhoeddi'r geiriadur, er nad ymddengys ei enw, gydag enw ei dad, onid ar y bedwaredd ran yn unig.
Richard Edmund Hughes, M.A., Pwllheli / Porthmadog.