EVANS, THOMAS, neu THOMAS ab IFAN (fl. 1596-1633), bardd a chopïydd llawysgrifau

Enw: Thomas Evans
Plentyn: Griffith Thomas
Rhiant: Lowri ferch Gruffudd ab Ifan ap Dafydd Ddu ap Tudur ab Ifan ap Llywelyn ap Gruffudd ap Maredudd ap Llywelyn ap Ynyr
Rhiant: Ifan ap Sion ap Robert Amhadog ap Siencyn ap Gruffudd ap Bleddyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a chopïydd llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Fel Thomas Evans, Hendreforfudd, yr adweinir ef. Trefddegwm yn hen blwyf Corwen yw Hendreforfudd, ond yn awr gorwedd ym mhlwyf eglwysig Llansantffraid Glyn Dyfrdwy. Mab oedd ef i Ifan ap Sion ap Robert Amhadog ap Siencyn ap Gruffudd ap Bleddyn a Lowri ferch Gruffudd ab Ifan ap Dafydd Ddu ap Tudur ab Ifan ap Llywelyn ap Gruffudd ap Maredudd ap Llywelyn ap Ynyr. Ni wyddys fan na phryd ei eni na'i farw, ond yr oedd yn copïo llawysgrifau ac yn prydyddu o 1596 i 1633. Ymddengys ei fod yn grefftwr ac iddo gael anaf a'i gadawodd yn gloff. Gallai wneuthur deial a bwa crwth. Yr oedd yn byw mewn tŷ a elwid yr Erw Gau, ac adeiladodd simnai gerrig yno yn 1615. Claddwyd ei frodyr, Robert ab Ifan a Rhys ab Ifan, yn Llansantffraid Glyn Dyfrdwy, y cyntaf 26 Ebrill 1618, a'r ail 28 Ebrill 1630. Yr oedd ganddo hefyd frawd o'r enw Sion ab Ifan. Canodd farwnad Simwnt Fychan yn 1606, gan ei alw yn ewythr ac yn athro. Daeth llawysgrifau Roger Morus, Coed-y-talwrn, yn eiddo iddo cyn 1607 (e.e. llawysgrifau Llanstephan MS 34 , NLW MS 3043B , ac NLW MS 1553A ). Y gwaith cynharaf ganddo ef ei hun yw calendr a manion astronomaidd a gopïodd yn 1596 (Peniarth MS 187 ). Yn ei lawysgrifau o waith y beirdd ceir cywyddau ac englynion ganddo ef ei hun, ac y mae ei waith wedi ei ddyddio yn weddol gyson ganddo. Ysgrifennwyd llawysgrif Caerdydd 12 rhwng 1600 a 1616, NLW MS 1553A (sy'n cynnwys llawer o'i waith) rhwng 1604 a 1633, NLW MS 235D (sydd hefyd yn cynnwys darn o'r Llyfr Plygain prin, 1618) rhwng y flwyddyn honno a 1622. Ysgrifennodd NLW MS 1554A , sy'n cynnwys casgliad sylweddol o achau, rhwng 1631 a 1633. Yn Llanstephan MS 34 ychwanegodd, yn 1628, Fuchedd S. Margred at gasgliad Roger Morus o Fucheddau'r Saint. Efe oedd perchen Peniarth MS 157 , sy'n cynnwys gramadegau, ac ychwanegodd nodiadau ynddi. Yr oedd yn englynwr toreithiog ond nid oedd ei chwaeth bob amser yn uchel. Yr oedd ganddo o leiaf un mab, Griffith Thomas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.