EVANS, THOMAS ('Tomos Glyn Cothi'; 1764 - 1833), gweinidog Undodaidd

Enw: Thomas Evans
Ffugenw: Tomos Glyn Cothi
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1833
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Capel Sant Silyn, Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, 20 Mehefin 1764. Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more oes; bu'n was fferm am dymor byr, ac yna dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd. Arferai fynychu ffeiriau Morgannwg i werthu brethyn, a daeth i gyfathrach â beirdd Morgannwg. Yr oedd yng Ngorsedd Mynydd y Garth, Alban Hefin, 1797. Newynai am wybodaeth er yn ieuanc, ac fe'i diwylliodd ei hun i fod yn llenor a bardd. Derbyniai roddion o lyfrau Saesneg oddi wrth Theophilus Lindsey yn 1792-6.

Cofleidiodd Undodiaeth mewn ardal lle yr oedd Calfiniaeth yn ei bri. Dechreuodd bregethu ar aelwyd ei hen gartref yn 1786. Cymaint oedd ei sêl dros athrawiaethau Dr. Priestley fel y llysenwid ef yn 'Priestley bach.' Symudodd yn 1811 i ofalu am yr Hen Dŷ Cwrdd, Aberdâr. Yr oedd yn werinwr a diwygiwr eirias. Cydymdeimlai â'r chwyldro yn Ffrainc, a hyn, yn ddiau, a'i dug i wrthdrawiad ag awdurdodau'r Llywodraeth. Yr oedd yng ngharchar Caerfyrddin ar 19 Ionawr 1803.

Ymhlith y pamffledau, y cyfieithiadau, a'r prif lyfrau a gyhoeddwyd ganddo y mae tri rhifyn o The Miscellaneous Repository neu Y Drysorfa Gymysgedig; An English-Welsh Dictionary neu Eir-Lyfr Saesneg a Chymraeg ; Cyfansoddiad o Hymnau, etc.; 'Y Gell Gymysg ,' mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd yn wir apostol rhyddid gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol, ac yn arloeswr mudiadau diwygiadol yn hanes a meddwl Cymru.

Bu farw 29 Ionawr 1833.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.