Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , THOMAS ( 1844 - 1922 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ;

g. 1 Tachwedd 1844 yn y Ffatri , Penybontfawr , sir Drefaldwyn . Bu'n gweithio fel ffatrïwr am gyfnod. Taniwyd ei ysbryd yn niwygiad crefyddol 1859 i ddechrau pregethu . Bu'n fyfyriwr yn athrofa'r Bala , 1865-8 , a bu'n gweinidogaethu yn Betws-y-coed a Salem ( Capel Garmon ), 1868-74 , ac yn Amlwch , 1874-1922 . Yr oedd yn fugail gofalus o'i braidd, yn bregethwr gwresog a chartrefol ei arddull, a dug fawr sêl dros y genhadaeth. Bu f. 7 Rhagfyr 1922 .

Yr oedd David Evans ( 1842 - 1914 ) [q.v.] ac Owen Evans ( 1829 - 1920 ) [q.v.] yn frodyr iddo.

Ffynonellau:

  • Y Tri Hyn sef y Parchedigion Owen Evans, D.D., Llundain, David Evans, Caerfyrddin, Thomas Evans, Amlwch (1931) ;
  • Y Dysgedydd , Mawrth 1923 .

Awdur:

Y Parchedig John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54