EVANS, Syr DAVID TREHARNE (1849 - 1907), arglwydd faer Llundain

Enw: David Treharne Evans
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1907
Priod: Emily Evans (née Boakes)
Rhiant: Anne Evans
Rhiant: Thomas Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd faer Llundain
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd 21 Ebrill 1849 yn Llantrisant, mab Thomas ac Anne Evans, Glanymychyd, ac yn perthyn i deulu a fu mewn busnes fel bragwyr a darllawyr ym Morgannwg am lawer cenhedlaeth. Addysgwyd ef yn Merton, Surrey, ac yn Ffrainc, ac yna ymunodd â busnes ei ewythr, Syr Richard Evans. Pan oedd yn 21 gwnaed ef yn bartner yn y ffyrm ac yn ddiweddarach daeth yn ben arni. Yn 1875 etholwyd ef yn aelod o gyngor Dinas Llundain, yn henadur yn 1884, ac yn 1891 dyrchafwyd ef yn arglwydd faer Llundain; efe oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd y safle anrhydeddus hon am yn agos i ganrif. Gwnaed ef yn K.C.M.G. ar ddiwedd ei dymor fel arglwydd faer. Bu'n dal cysylltiad â nifer o gwmnïau a chymdeithasau'r brifddinas. Fel aelod blaenllaw o'r blaid Geidwadol gallasai fod wedi cynrychioli'r Ddinas yn y Senedd, ond gwrthodai bob apêl arno. Bu'n ustus yn Sir Forgannwg a Surrey, ac yn un o raglawiaid Dinas Llundain. Priododd, 1874, Emily (bu farw 1903), merch Lawrence Boakes, a bu iddynt wyth o blant, pedwar mab a phedair merch. Trigai yn Ewell Grove, Surrey, ac yno y bu farw 14 Awst 1907.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.