EVANS, DAVID TYSSIL (1853 - 1918), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd

Enw: David Tyssil Evans
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Stephen Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 6 Tachwedd 1853, ger Penygroes, Sir Benfro, mab Stephen Evans, clocsiwr a thyddynnwr bychan. Dechreuodd bregethu ym Mehefin 1872. Bu yn ysgol D. Palmer, Aberteifi, yng Ngholeg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin (1875-7), ac yn New College, Llundain; B.A. (Llundain), 1879, M.A., 1882, B.Sc., 1894. Ordeiniwyd ef yn Hornsea, swydd Gaerefrog, 1884. Apwyntiwyd ef yn ddarlithydd mewn Hebraeg yng Nghaerdydd, 1891, ac, yn ddiweddarch, yn athro. Gofalai am eglwys Trinity, Cowbridge Road, o 1894 hyd 1917. Bu farw 29 Medi 1918, a chladdwyd ef ym Mhenygroes, Sir Benfro. Cyhoeddodd: Cofiant a Phregethau Caleb Morris, Fetter Lane, Llundain, 1900, ac argraffiad Saesneg ohono yn 1902; The Principles of Hebrew Grammar (London, 1912).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.