EVANS, TOM VALENTINE (1861 - 1935), gweinidog y Bedyddwyr

Enw: Tom Valentine Evans
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1935
Priod: Jennet Evans (née Griffiths)
Plentyn: David Emrys Evans
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Emrys Evans

Ganwyd yn Llandybie, 14 Chwefror 1861, mab William a Mary Evans, a brawd i Frederick Evans. Dechreuodd bregethu yn 1877 gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; aeth i ysgol Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Trefeca yn 1879. Troes at y Bedyddwyr, ac aeth i Goleg Pontypŵl yn 1880. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Calfaria, Clydach, Cwm Tawe, yn 1882, ac yno y bu ar hyd ei yrfa nes ymddiswyddo yn 1927. Priododd Jennet Griffiths o Benybont-ar-Ogwr, 1886. Darlithiodd lawer ar Robert Ellis ('Cynddelw'), y ' Llyfr Hymnau,' Joseph Harris ('Gomer'), ' Llên Gwerin Shir Gâr,' a thestunau eraill. Cyhoeddodd Clydach a'r Cylch (traethawd buddugol) yn 1901, Y Ford, cyfrol o bregethau 'i blant o bob oed,' yn 1911, a Ieuan Ddu o Lan Towy, yn ' Cyfres y Bedyddwyr Ieuainc,' yn 1923. Dwg ei gynnyrch ôl y dillynder gloyw, cryno, a nodweddai ei berson, ei feddwl, ei lawysgrifen, ac, yn anad dim oll, ei bregethau. Bu farw 12 Ionawr 1935.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.