EVANS, WILLIAM (?- 1718), pregethwr Ymneilltuol ac athro academi

Enw: William Evans
Dyddiad marw: 1718
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Ymneilltuol ac athro academi
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Richards

dyddiad ei eni'n anhysbys. Ymfalchïai fod yn ddisgybl i'r Gamaliel parchedig Rhys Prydderch o Ystrad Walter; daeth â Gemau Doethineb ei athro drwy'r wasg yn 1714 (amryw argraffiadau o'r Gemau, un mor ddiweddar â 1937). Ordeiniwyd ef fel Annibynnwr yn 1688, i gyflawni gwaith gweinidog ym Mhencader; main iawn oedd y gydnabyddiaeth yno, ond bu arian ei wraig o gryn gymorth iddo, a'r tâl a enillai fel athro i ysgol fechan a gadwai. Yn 1702-3 mudodd o Bencader i dref Caerfyrddin i arolygu achosion yr Annibynwyr yn yr ardal honno, cadw ysgol o dan nawdd y S.P.C.K., a gweithredu fel athro ar ddynion ieuainc â'u golwg ar y weinidogaeth; cadwodd gyswllt clos gyda'r hen ddiadell ym Mhencader, a llwyddodd i sicrhau capel eglwysig Llanybri i fod yn fan addoli i Annibynwyr. Trwythodd ddisgyblion yr academi yn syniadau Calfin (cofier bod yr academi hon yn llinach ysgolion Brynllywarch a'r Fenni), a gofalodd eu bod hwy a'i braidd ym Mhencader a Chaerfyrddin yn drwyadl gydnabyddus â Chatecism Byrraf Cymanfa Westminster; yn wir, cyfieithodd William Evans y Catecism i'r Gymraeg a'i gyhoeddi yn 1707; y mae prawf hefyd iddo ysgrifennu rhagair (dyddiedig 24 Mehefin 1716) i argraffiad arall o'r un Catecism, a gyhoeddwyd i ddechrau gan Matthew Henry yn 1702, ac a droswyd i'r Gymraeg gan James Davies ('Iaco ap Dewi'). Disgrifid Evans gan Jeremy Owen fel rhodd yr Arglwydd i'r bobl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.