Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EVANS , WILLIAM (?- 1776? ), geiriadurwr .

Tybir ei fod o Cefngwili , plwyf Llanedi , sir Gaerfyrddin — ar hyn gw. llythyr yn Yr Ymofynydd , 1888 , 19-20, gan W. D. Jeremy a ddywed i Evans fod yn efrydydd yn academi Caerfyrddin , 1767-72 . Pan oedd yno cyhoeddwyd ganddo A New English-Welsh Dictionary … ( Carmarthen , 1771 ). Bu'n gofalu am eglwys Bresbyteraidd yn Sherborne , Dorset , am beth amser. Yn 1776 , fodd bynnag, oblegid bod ei iechyd yn gwanychu, symudodd i ofalu am eglwys yn Moreton-Hampstead , Dyfnaint , eithr tybir iddo f. yn fuan ar ôl symud yno.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present (1908) ;
  • Yr Ymofynnydd , 1887 , 1888 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54