EVANS, WILLIAM (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1921
Priod: Caroline Evans (née Davies)
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Katharine Monica Davies

Ganwyd yn Betw, ger Tonyrefail, Sir Forgannwg, 1 Awst 1838, mab David Evans, Caerdydd, ac ŵyr i'r Parch. William Evans, Tonyrefail. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Normal Abertawe a Phrifysgol Glasgow (M.A.), a bu wedi hynny yng Ngholeg Cheshunt am gwrs mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1863 ac ymgymerodd â gofal eglwys Methodistiaid Calfinaidd Saesneg Runcorn. Ymhen dwy flynedd symudodd i S. Andrews, Pembroke Dock. Yn 1875 cafodd alwad i eglwys Saesneg Bath Street, Aberystwyth, lle y bu am chwe blynedd, pryd y galwyd ef yn ôl i Pembroke Dock, lle yr arhosodd hyd ymddiswyddo o'r fugeiliaeth yn 1905. Etholwyd ef yn llywydd cymdeithasfa'r De am y flwyddyn 1868, a bu'n ysgrifennydd trysorfa'r gweinidogion yn y De am 20 mlynedd. Bu farw yn ei gartref yn Pembroke Dock 11 Chwefror 1921. Ysgrifennodd Cofiant William Evans, Tonyrefail (Newport, 1892), An Outline of the History of Welsh Theology (London, 1900), The History of the South Pembrokeshire Calvinistic Methodist Churches (Wrecsam, 1913, gyda O. S. Symond), Souvenir of the Dawkins Family, Pembroke, 1916, Memoir of the Rev. William Powell, Pembroke (Cardiff, 1918).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.