Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FENTON, RICHARD (1747-1821), bardd ac awdur; g. yn Ionawr 1747 yn Nhyddewi, mab Richard a Martha Fenton. Cafodd ei addysg yn ysgol yr eglwys gadeiriol yno, ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen (ond nid yw ei enw gan Foster). Bu am gryn amser yn y gwasanaeth gwladol, yn y Custom House; ond eisoes yn 1774 yr oedd wedi ymaelodi yn y Middle Temple, ac fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr ym mis Ionawr 1783, a bu'n dilyn cylchdeithiau Cymru am rai blynyddoedd, eithr yn raddol daeth materion llenyddol i'w ddiddori yn fwy na'r gyfraith. Ymysg ei gyfeillion yr oedd Oliver Goldsmith a Syr Richard Colt Hoare [q.v.]; ar gais Hoare yr ysgrifennodd Fenton ei Historical Tour through Pembrokeshire (London 1810). Cyhoeddodd hefyd A Tour in Quest of Genealogy, 1811, Memoirs of an Old Wig, 1815 — y ddau lyfr hyn yn llawn o straeon ffraeth ac wedi eu cyhoeddi yn ddienw — heblaw llyfrau barddoniaeth yn 1773 a 1790. Gadawodd ar ei ôl lawer o ysgrifeniadau heb eu cyhoeddi. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion a phenodwyd ef yn llyfrgellydd iddi yn 1777; cyfeiria Richard Morris yn garedig ato yn 1779 (N.L.W. Jnl., vi. 193); yr oedd hefyd yn un o aelodau cynnar (1776) y Gwyneddigion.

Yr oedd Fenton yn ieithydd da; barn un o'i gyfoeswyr amdano ydoedd ei fod yn ŵr ‘of indefatigable industry, of a fine poetical fancy,’ ac yn un a chanddo ‘the best information on almost every subject.’ Oherwydd ei fod mor gyfarwydd â materion Cymreig ac â thafodieithoedd Cymru fe'i defnyddid gan y Llywodraeth i baratoi adroddiadau ar faterion yn ymwneuthur â chyflwr cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.

Bu Fenton yn byw am ychydig flynyddoedd (c. 1788) gerllaw Machynlleth er mwyn gwneuthur ei deithiau trwy Gymru a'i astudiaeth o ddefnyddiau hanes Cymru yn fwy hwylus; dychwelodd i sir Benfro yn 1793 er mwyn bod yn agos at ei ewythr, Samuel Fenton, perchennog llongau masnachu a etifeddwyd ac a weithiwyd gan Richard Fenton yn ddweddarach. Yn 1799 daeth ag ŷd o'r Mô'r Canoldir, heb godi tâl cludo, a'i werthu am y pris a dalodd ef ei hun amdano i bobl yn sir Benfro a golledwyd oherwydd i gynhaeaf y pysgod yn 1799 brofi mor wael.

Priododd Eloise, merch y cyrnol (a'r barwn) Pillet de Moudon, gŵr a anwyd yn yr Yswisdir ond a ymsefydlasai yn Lloegr. Bu f. yn Plas Glynamel, gerllaw Abergwaun, yn gynnar ym mis Tachwedd 1821, a chladdwyd ef ym Maenor Owen, gerllaw Abergwaun.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • hanes ei fywyd yn Pemb. (ail arg.), 1903, ix-xxxi.

Awdur:

Frederick John North, O.B.E., D.Sc., F.G.S., F.S.A., F.M.A., (1889-1968), Caerdydd

Atodiadau a chywiriadau:

FENTON, RICHARD (Bywg., 245) Glyn-y-mêl oedd enw ei blâs. Gw. ymhellach Cymm. 1951, 60, 99, a'r Rhagymadrodd i Fisher, ed. Tours in Wales, 1804-13, gan R. Fenton, 1917.