FITZGERALD, DAVID (bu farw 1176), esgob Tyddewi, 1148-76

Enw: David Fitzgerald
Dyddiad marw: 1176
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Tyddewi, 1148-76
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Jones

Mab i Gerald de Windsor a Nest, ferch Rhys ap Tewdwr, ac ewythr i Gerallt Gymro. Clywir gyntaf amdano fel archddiacon Ceredigion a chanon Tyddewi. Ar ôl marw'r esgob Bernard bu anghydfod rhwng y canonwyr Cymreig ar y naill law a'r rhai Seisnig a Ffrengig ar y llaw arall, y naill rai o blaid cael esgob o Gymro a'r lleill yn erbyn hynny. Cafwyd cyfaddawd drwy ethol David, gan ei fod o linach Gymreig a Normanaidd. Fe'i cysegrwyd yn esgob gan yr archesgob Theobald ar 19 Rhagfyr 1148 yng Nghaergaint, ac addawodd gydnabod awdurdod Caergaint fel mam-eglwys dros Dyddewi. Ar 3 Mehefin 1162 cymerodd ran - gyda Nicholas, esgob Llandaf - yng nghysegriad Thomas, archesgob Caergaint, ac ar 19 Mai 1163 yr oedd yn bresennol yn y cyngor a alwasai'r pab Alexander III yn Tours, gan godi treth ar y clerigwyr at dreuliau ei siwrnai. Rywbryd rhwng 1148 ac 1163 bu dadl rhyngddo ac esgob Llandaf ynglŷn â ffiniau, a chynigiodd Gilbert, esgob Henffordd, ei wasanaeth fel barnwr rhyngddynt. Ar 30 Ionawr 1164 arwyddodd gyfansoddiadau Clarendon. Yn 1167 perswadiodd yr arglwydd Rhys ap Gruffudd i ryddhau ei hanner-brawd Robert Fitz Stephen ar ôl ei garcharu am dair blynedd. Pan ddaeth Harri II ar bererindod i Dyddewi tua dechrau Hydref 1171 gwahoddodd yr esgob ef i aros gydag ef; gwrthododd y brenin hynny, ond ciniawodd gydag ef. Rhwng Hydref 1171 ac Ebrill 1172 rhoes y brenin siartr i'r esgob yn cadarnhau ei holl feddiannau yn ôl siartr Harri I i'r esgob Bernard. Ar 18 Mai 1175 bu yng nghyngor Richard, archesgob Caergaint, yn Llundain gerbron Harri II a'i fab Harri. Tua'r un adeg aeth dirprwyaeth o ganonwyr Tyddewi i Lundain i osod 27 o gyhuddiadau yn erbyn eu hesgob gerbron yr archesgob Thomas, ond cyfarfu David FitzGerald â hwy cyn iddynt fynd o flaen yr archesgob ac ymbil arnynt beidio â mynd â'r mater ymhellach, gan addo dychwelyd iddynt bopeth a ddygasai oddi arnynt. Yn yr un flwyddyn gorffennodd drosglwyddo eglwys Llanbadarn-fawr, Sir Aberteifi, i abaty S. Pedr, Caerloyw. Ar 14 Mawrth 1176 aeth rhai o ganonwyr Tyddewi i gyngor Hugh, cardinal S. Angelo a legat yn Lloegr, i ddadlau hawl Tyddewi i fod yn eisteddfa archesgobol, hawl yr oedd yr esgob wedi'i gwadu ar ei gysegriad. Ar 8 Mai 1176 bu farw o dwymyn, heb wneud ewyllys, ac fe'i claddwyd yn Nhyddewi. Daeth Peter de Leia yn esgob ar ei ôl.

Ar y cyfan ceir darlun ffafriol ohono gan ei nai Gerallt Gymro, er ei fod yn beirniadu peth arno am beidio ag amddiffyn hen hawliau Tyddewi. Yn ei 'Fuchedd' (gwaith un o'r canonwyr, y mae'n debyg) ceir darlun llai ffafriol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.