FITZSTEPHEN, ROBERT (bu farw c. 1183), un o goncwerwyr Iwerddon

Enw: Robert Fitzstephen
Dyddiad marw: c. 1183
Rhiant: Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Rhiant: Stephen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o goncwerwyr Iwerddon
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Bertie George Charles

mab Stephen, cwnstabl castell Aberteifi yn 1136, a Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Yr oedd yn berchen ar diroedd yng Nghemais a dilynodd ei dad fel cwnstabl Aberteifi. Pan ymosododd Harri II ar deyrnas Owain Gwynedd yng Ngogledd Cymru yn 1157, aeth Robert â llynges i'w gynorthwyo. Fe'i clwyfwyd yn ddrwg yn yr ymladd, ond dihangodd i'r llongau gerllaw. Ymddengys iddo amddiffyn castell Aberteifi dros deulu Clare yn dra llwyddiannus am gyfnod maith, hyd yn oed yn erbyn ymosodiad Hywel ap Owain yn 1145. Ni syrthiodd y castell i ddwylo'r Cymry tan 1165, ar ôl i Rhys ap Gruffydd ddarostwng Ceredigion bron yn llwyr. Pryd hynny bradychwyd y castell i ddwylo Rhys, difodwyd ef yn llwyr, a charcharwyd Robert am dros dair blynedd. Ar ôl ei ryddhau croesodd i Iwerddon i helpu brenin Leinster a chymerodd ran bwysig yng nghoncwest Iwerddon, lle y rhoddwyd tiroedd iddo yn Wexford a'r cylch. Yn 1177 anrhegwyd ef â rhan o deyrnas Cork, lle bu'n llywodraethu tan ei farw, c. 1183. Sefydlwyd mynachlog Ystrad Fflur yn 1164 ar dir a roddodd ef i'r mynachod. Efe hefyd a gyflwynodd Llanfyrnach ar Daf i farchogion Slebech.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.