Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FITZOSBERN , WILLIAM (bu f. 1071 ), iarll Henffordd, arglwydd Breteuil yn Normandy ,

câr a chyfaill William I . Efe oedd y cyntaf i gymell William i geisio goresgyn Lloegr a daeth yn bennaf gŵr yn y gwaith hwnnw; efe a fu'n gyfrifol, yn bennaf, am sefydlu teyrnasiad y Normaniaid ar arfordir Cymru ac am oresgyn Gwent . Daeth yn iarll Henffordd yn gynnar yn 1067 , a bu i'w ymosodiadau trwm ar dir y goror beri i Bleddyn a Rhiwallon ap Cynfyn o Bowys ymuno fel cynghreiriaid â Saeson Mercia yn 1067 a pharhau yn y cyswllt hwnnw nes i wŷr Mercia ymostwng yn derfynol yn 1070 . Gorchfygodd Fitzosbern Faredudd a Rhys ab Owain , Deheubarth , a Chadwgan ap Meurig , Morgannwg ( c . 1070 ), adeiladodd gestyll yn Wigmore , Clifford , Ewias Harold , Trefynwy , a Chepstow , a gorchfygodd Gwent . Ystyrid yn Lloegr ei fod yn ŵr gerwin, eithr yr oedd yn gymodlawn yn ei ymwneud â Chymry Gwent , gan adael i amryw ohonynt gadw eu tiroedd ar y telerau ffafriol a gawsent gan Gruffydd ap Llywelyn ; ni chollodd mo'r meiri Cymreig eu lle ychwaith. Cyn ymadael â'r wlad am y tro diwethaf daeth i delerau â Maredudd ab Owain a chaniatáu iddo drefedigaeth (‘vill’) Ley . Er mwyn cryfhau y gyfres o gestyll amddiffynnol ar y goror cysylltodd â hwynt fwrdeisdrefi y rhoddwyd siarteri iddynt, gan ddenu pobl i ymsefydlu ynddynt trwy roddi iddynt amodau byw ffafriol; e.e. rhoes i'w denantiaid Ffrengig yn Henffordd y breiniau rhyddfrydig a roesai i'w bobl yn Breteuil . Daeth y breiniau hyn yn batrwm i'r siarteri a roddwyd gan amryw o'r arglwyddi Normanaidd i'w bwrdeisdrefi hwythau, a bu ganddynt ddylanwad mawr yng Nghymru gan fod Henffordd yn cael edrych arni yn gyffredinol fel patrwm o fwrdeisdref. Lladdwyd Fitzosbern mewn brwydr yn Cassel , 20 Chwefror 1071 , a chladdwyd ef yn Cormeilles yn Normandi .

Ffynonellau:

  • Freeman , The history of the Norman conquest of England, its causes and its results (1867-79) , iv, 66-72, 103-6, 111, 126, 241-3, 502-4;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • English Historical Review , 1900 , 74, 76, 302-3, 305-8, 313, 317-8;
  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest , ii, 150, 374-6;
  • Liber Landavensis. The Text of the Book of Llan Dâv (1893) , 277-8;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1899 - 1900 , 148.

Awdur:

Ceinwen Hannah Thomas, Ph.D., (1911-2008), Gilwern, Abergafenni / Nantgarw / Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54