Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FOTHERGILL (TEULU), meistri gweithydd haearn, etc.

Gwŷr oedd y rhain o Kendal yn Westmorland , a hefyd o sir Cumberland . Dau frawd oedd y cyntaf ohonynt a ddaeth i Ddeheudir Cymru , sef Richard Fothergill I ( 1758 - 1821 ) a JOHN FOTHERGILL ( 1763 - 1828 ) — cysylltir John â Bedwellty . Cyfyngir yr ysgrif bresennol i Richard a'i olynwyr.

RICHARD FOTHERGILL I ( 1758 - 1821 );

fe'i denwyd o Clapham , lle'r oedd yn adeiladydd , gan bosibiliadau mwynawl De Cymru . Yn 1794 daeth yn bartner yng ngwaith haearn Sirhowy gyda Matthew Monkhouse ac un arall. Yn 1800 ymunodd â Samuel Homfray yn Tredegar ; rhoes heibio ofalu am y gwaith hwnnw yn 1817 . Pan ddaeth prydles gwaith Sirhowy i ben yn 1818 — yr oedd wedi arfaethu adnewyddu'r brydles ond fe'i rhoddwyd heb yn wybod iddo ef i'r Mri. Harford , Ebbw Vale — symudodd ei beiriannau i gyd a thorri pob cysylltiad â Sirhowy . Yr oedd ganddo waith haearn yn Ponthir , gerllaw Caerlleon , yn 1818 , a bu'n byw am ychydig amser yn Back Hall , Caerlleon . Manteisiodd y Mri. Tappenden , perchenogion gwaith haearn Abernant , ar ei wybodaeth a'i allu. Yr oedd yn dyst o'r cytundeb ( 1804 ) a wnaed rhyngddynt hwy â'r Mri. Scale (yr Aberdare Iron Co. ), perchenogion gwaith Llwydcoed , i gael defnyddio'r ffordd dram i gysylltu eu gwaith hwy â'r Neath Canal . Yn 1807 bu'n dyst o'r weithred gyfreithiol yn dibennu'r bartneriaeth yng ngwaith Abernant , pan gymerwyd hwnnw gan y Mri. Tappenden oddi wrth Jeremiah Homfray a James Birch . Daeth ei ddylanwad yn fawr yn rheolaeth gwaith Abernant ac yng ngweithydd Tredegar a Sirhowy ; yr oedd hefyd yn paratoi'r ffordd i'w fab, ROWLAND FOTHERGILL , i gael rheoli ac, yn ddiweddarach, i feddu, gweithydd Llwydcoed ac Abernant . Dilynodd ei ail fab, THOMAS FOTHERGILL ( 1791 - 1858 ), ef yng ngwaith Ponthir ; bu ef yn siryf sir Fynwy yn 1829 .


Yr oedd ei fab ROWLAND FOTHERGILL ( 1794 - 1871 ) yn feistr haearn galluog. Yn fuan iawn, ar ôl i Tappendens ymadael, daeth yn brif gyfarwyddwr gwaith Abernant ; ychydig yn ddiweddarach daeth yn bennaf cyfarwyddwr gwaith Llwydcoed — anghytunai ef a'r Mri. Scales yn fynych. Wedi cyfreithio costus arwerthwyd y gwaith yn 1846 ; prynodd Rowland Fothergill ef, a chyn hir, oherwydd ei allu fel rheolwr , llwyddodd y gwaith, daeth y perchennog yn gyfoethog, ac ymneilltuodd i gastell Hensol , gerllaw'r Bontfaen . Yr oedd ganddo hefyd waith haearn, y ‘ Taff Vale Ironworks ,’ ym mhlwyf Llanilltud-y-faerdref — yn hwn buwyd yn llwyddiannus iawn wrth wneud rheiliau ffyrdd trenau .

Buasai Rowland Fothergill yn siryf Morgannwg yn 1850 . Bu f. 19 Medi 1871 a chladdwyd ef yn eglwys Pendoylan , ac aeth ystad Hensol a'i gastell i'w aeres, Isabella , merch ei chwaer Ann ; priododd hi, yn 1877 , Syr Rose Lambert Price , barwnig .



Pan aeth Rowland Fothergill i gastell Hensol i fyw rhoddwyd gofal y gweithydd haearn a'r pyllau glo ar ysgwyddau ei nai, RICHARD FOTHERGILL III ( 1822 - 1903 ), mab RICHARD FOTHERGILL II ( 1789 - 1851 ), a oedd yn frawd hŷn na Rowland . Dilynodd Richard III ei ewythr fel rheolwr , ac yn ddiweddarach fel perchennog gwaith haearn Aberdâr , etc. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth o'r holl weithrediadau ynglŷn â gweithio haearn a chodi glo. Yr oedd ganddo siop y cwmni (‘ Truck shop ’), a pharodd hyn fod gwrthwynebiad iddo; galwyd arno ( 1851 ) i ateb cyhuddiadau yn llys Aberdâr , a bu raid i H. A. Bruce ( arglwydd Aberdâr ) [q.v.] , yr ynad cyflog , ei feirniadu'n llym. Llwyddodd gwaith Abernant mewn modd neilltuol. Yn y flwyddyn 1873 , ychydig cyn y dirwasgiad a ddilynodd, yr oedd cyfanswm y cyflogau a delid yn £200,000 — 25 mlynedd cyn hynny £60,000 ydoedd. Yn 1862 yr oedd gwaith Plymouth , gerllaw Merthyr , wedi dyfod i'w ddwylo. Hyd y flwyddyn honno gweithid yno yn ôl yr hen ddull ond mynnodd Richard III ddefnyddio dulliau newydd, a chyn hir yr oedd y gwaith yn cystadlu'n ddygn â'r gweithydd mawrion yn Nowlais a Chyfarthfa . Daeth gwaith Penydarren i'w ddwylo hefyd, ac o'r herwydd yr oedd iddo gymaint pwysigrwydd a phoblogrwydd yn ardal Merthyr ag oedd iddo yn ardal Aberdâr . Adeiladodd blasty yn Abernant (cartref St. Michael's College ac ysbyty Aberdâr wedi hynny) wedi ei amgylchu â thiroedd prydferth — fe'i gelwir yn ‘Fothergill's Park’ hyd heddiw.

Gwnaed Richard III yn un o aelodau cyntaf bwrdd iechyd Aberdâr . Pan gafodd Merthyr ac Aberdâr yr hawl i ddewis dau aelod seneddol , yn 1868 , etholwyd Henry Richard [q.v.] ac yntau. Wedi iddo fynd i'r Senedd bu'n ddiwyd yn galw sylw at gymhwyster glo ager De Cymru i gael ei ddefnyddio gan y llynges o'i gymharu â glo gogledd Lloegr a glo Ysgotland ; gwnaeth araith, 29 Gorffennaf 1870 , yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia , gan ddangos mor angenrheidiol oedd y glo neilltuol hwn mewn argyfwng o'r fath oherwydd nad oedd mwg yn codi ohono. Ategwyd ef gan Syr H. H. Vivian [q.v.] .

Yr oedd yn un o aelodau gwreiddiol yr Iron and Steel Institute ( 1869 ), ac fe'i dewiswyd yn aelod o gyngor y sefydliad hwnnw yn 1871 . Priododd (1), 1848 , Elizabeth , chwaer James Lewis , Plasdraw , Aberdâr , a (2), 31 Rhagfyr 1850 , Mary Roden . Parhaodd yn aelod seneddol hyd 1880 ; ymneilltuodd y flwyddyn honno ac aeth i fyw i Ddinbych-y-pysgod , lle y bu f. 24 Mehefin 1903 .

Oherwydd y datblygiadau newydd a ddilynodd pan fabwysiadwyd dull Bessemer yn rhai o'r gweithydd haearn, a streiciau yn y pyllau glo , methodd y cwmnïau yr oedd ef yn ben arnynt, megis y gwnaeth amryw eraill yn y cyfnod hwn. Caewyd gweithydd haearn Llwydcoed ac Abernant , ac nis ailagorwyd.

Ffynonellau:

  • Gw. rhestr llyfrau, etc., o dan ‘Crawshay’;
  • The Weekly Mail , 27 Mehefin 1903 ;
  • The Times , 25 Mehefin 1903 ;
  • The Engineer (1910-13) , 26 Mehefin 1903 ;
  • Cardiff and Merthyr Guardian , 26 Ebrill 1851 ;
  • Western Mail , 14 Rhagfyr 1871 ;
  • The Cardiff Times , 23 Tachwedd 1871 :
  • papurau Merthyr Tydfil yn ystod etholiad seneddol 1868 .

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54