Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FOULKES , WILLIAM (bu f. 1691 ), clerigwr ac awdur ;

mab i glerigwr (o'r enw John Foulkes , meddai Ashton . Aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , yn 1650 (ni roddir ei oedran), a graddiodd yn 1653 . Yr oedd yn rheithor segur y Cwm (ger Rhuddlan ) yn 1660-1 , yn rheithor Llanfyllin (a Llanbrynmair hefyd) 1661-91 , gyda Llanfihangel-yng-Ngwynfa o 1680 , ac yn ganon yn Llanelwy o 1662 ymlaen. Bu f. yn Llanfyllin ddechrau 1691 — claddwyd 9 Ionawr . Yn 1685 , golygodd a chyhoeddodd Gweddi'r Arglwydd wedi ei hegluro , gwaith yr esgob George Griffith [q.v.] ; ac yn 1688 gyfieithiad, Esponiad ar Gatecism yr Eglwys , gwaith yr esgob Ken .

Ffynonellau:

  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • C. Ashton , Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 (1893) 85-6;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , i, 360; ii, 230, 234.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor



Mab iddo oedd WILLAM FOULKES , a raddiodd o Goleg Iesu , Rhydychen , yn 1699 ( B.C.L. 1705 , D.C.L. 1707 ). Ceir yr enw ‘Gul. Fowkes LL.D. e coll Iesu’ ar ôl darn o farddoniaeth yr yr atodiad i Cardiff MS. 26 .

Ffynonellau:

  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Evans , Reports on Manuscripts in the Welsh Language (1898–1910) , ii, 224.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54