FRANCIS, BENJAMIN (1734-1799), emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr;
g. ym Mhen-y-gelli ger Castellnewydd Emlyn, plentyn ieuengaf Enoch Francis [q.v.]. Gan i'w rieni f. pan nad oedd ef ond 6 oed, magwyd ef yn Abertawe, ac yno (1749) y bedyddiwyd ef. Aeth yn 1753 i academi'r Bedyddwyr ym Mryste, ac ar ddiwedd 1755 gwahoddwyd ef i fod yn weinidog (cynorthwyol) yn Broadmead. Symudodd yn 1756 i Chipping Sodbury, ac oddi yno (1759) i Horsley, lle y bu f. 14 Rhagfyr 1799. Er bwrw cymaint o'i oes yn Lloegr (a phrydyddu hefyd yn Saesneg), glynodd Benjamin Francis wrth ei Gymraeg. Byddai'n mynychu'r gymanfa, a phregethodd bedair gwaith ar ddeg iddi. Cyhoeddodd ddau gasgliad (1774, 1786) o emynau Cymraeg, ill dau'n dwyn y teitl Aleliwia. Efallai mai ar y mesur salm y canai'n fwyaf effeithiol; y gŵyn gyffredin yw bod ei emynau'n orgynganeddol, eto delir hyd heddiw i ganu amryw ohonynt. Enwir marwnadau a cherddi Cymraeg eraill o'i waith gan Charles Ashton, 406.
Llyfryddiaeth:
- Joshua Thomas, Hanes y Bed., 119, 383;
- Hist. Bapt. Assoc.;
- Evan Isaac, Prif Emynwyr Cymru, 1925;
- J. Thickens, Emynau, 1945.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.