FRANCIS, EDMUND (1768 - 1831), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd

Enw: Edmund Francis
Dyddiad geni: 1768
Dyddiad marw: 1831
Rhiant: Lydia Francis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Gŵr o Fôn, gellid meddwl, oblegid bedyddiwyd ei fam, Lydia Francis, yn Amlwch, ac yno hefyd (8 Hydref 1786) y bedyddiwyd yntau. Cyn 1790 yr oedd wedi dechrau pregethu, ac ar 1 Rhagfyr 1795 urddwyd ef yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd ar y pryd yn coleddu Sandemaniaeth. Glynodd Edmund Francis wrth y golygiadau hynny weddill ei oes. Symudodd i Gaernarfon yn 1799, yn glerc i Richard Roberts, masnachwr mewn llechi a pherchennog chwarel y Cilgwyn, yntau'n Fedyddiwr Albanaidd. Ar farwolaeth Roberts (1815) agorodd Francis fusnes ŷd a blawd, ac yr oedd hefyd yn gweithredu dros waith copr Drws-y-coed. Yn 1801, neu'n fuan wedyn, yr oedd wedi sefydlu eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni, ac yn fugail arnynt. Yr oedd yn llenor da, ac yn gyfaill i 'Robert ap Gwilym Ddu'; canodd hwnnw englynion coffa iddo. Francis a gwplaodd y gwaith o ddwyn allan emyniadur J. R. Jones o Ramoth; ac yn 1829 cyhoeddodd gyfieithiadau o dri o weithiau Archibald McLean. Bu farw yn Rhagfyr 1831 - ar y pumed, meddai carreg ei fedd yn Llanllyfni, ar yr wythfed yn ôl llyfr eglwys Ramoth - yn 63 oed. Daeth ŵyres iddo'n wraig i'r hanesydd Alfred Neobard Palmer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.