Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FRANCIS, JOHN (1789-1843), melinydd a cherddor; g. 20 Mawrth 1789, mab William a Margaret Francis, Melin Rhyd-hir, Pwllheli, sir Gaernarfon. Hoffai gerddoriaeth yn fachgen, dysgodd elfennau cerddoriaeth a chynghanedd, a daeth i allu cyfansoddi yn lled ieuanc. Nid oes ond tair tôn ar gael o'i waith. Yn Seren Gomer , Tachwedd 1821, ceir tôn o'r enw ‘Mwyneidddra,’ ac un arall dan yr enw ‘Gomer,’ ac, ym Mawrth 1823, y dôn ‘Pwllheli’ — ei henw cyntaf oedd ‘Morwydden.’ Cyfansoddodd anthem ar Salm xxxix a fu'n boblogaidd yn Llŷn ac Eifionydd. Arferai gadw ei lyfrau canu mewn cist fechan yn y felin, ond torrodd lleidr i mewn un noswaith, gan ddwyn ei holl gyfansoddiadau. Bu'n arweinydd y canu yng nghapel Penlan (Annibynnol), Pwllheli, am lawer o flynyddoedd. Bu f. 19 Awst 1843, a chladdwyd ef ym mynwent Penlan, Pwllheli.

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor Cymreig, Hydref 1871, Mai 1872;
  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
  • Ceitho;
  • Y Cerddor, Mai 1893;
  • Blackwell.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn