Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FROST , JOHN ( 1784 - 1877 ), siartydd ;

g. 25 Mai 1784 , mab John a Sarah Frost , tafarn y Royal Oak , Casnewydd-ar-Wysg . Cafodd ei brentisio'n grydd gyda'i daid ac yn ddiweddarach bu'n cynorthwyo mewn siopau dilledyddion ym Mryste a Llundain . Agorodd ei fusnes ei hun yng Nghasnewydd tua 1806 ; ar 24 Hydref 1812 priododd Mary Geach , gweddw. Oherwydd cweryl teuluol oblegid ewyllys ewythr ei wraig daeth i wrthdarawiad â Thomas Prothero , clerc dinesig Casnewydd (a thaid Rowland Prothero , yr arglwydd Ernle 1af ), a bu'n ymosod arno mewn cyfres o bamffledi yn 1821 a 1822 ; mewn canlyniad i hyn fe'i dyfarnwyd yn euog o enllib, bu raid iddo dalu iawn o £1,000, a chafodd ei anfon i garchar am chwe mis, Chwefror 1823 .

Wedi ei ryddhau o'r carchar llwyddodd yn ei fasnach, a chymerodd ran bwysig mewn gwleidyddiaeth leol , gan wrthwynebu dylanwad Torïaidd Morganiaid Tredegar ar y naill law a goruchafiaeth Chwigaidd Prothero a'r rhai a oedd yn cyfeillachu ag ef ar y llaw arall. Fe'i dewiswyd yn gynghorydd trefol , 1835 , pan basiwyd y Municipal Corporations Act , a daeth yn olynol yn ustus heddwch , yn gomisiynwr gwelliannau , yn warcheidwad y tlodion , ac yn faer Casnewydd .

Er mai ym mis Hydref 1838 y dechreuodd cysylltiad Frost â'r mudiad Siartaidd , fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i gonfensiwn y Siartwyr ; ac ym mis Mawrth 1839 collodd ei le ar fainc yr ustusiaid. Pan gymerwyd Henry Vincent , y cynhyrfwr Siartaidd , i'r ddalfa, 7 Mai 1839 , a'i anfon i garchar Trefynwy , ffyrnigwyd teimladau glowyr a gweithwyr haearn sir Fynwy . Heblaw hynny, pan benderfynwyd dyfod â'r confensiwn i ben ar 14 Medi , wedi i Frost , fel cadeirydd , roddi ei bleidlais o blaid hynny pan oedd y ddwy blaid yn gyfartal — teimlid fod y Siartwyr heb arweinydd. Ac felly, er gwaethaf cymhellion Frost o blaid arafwch a chymedrolder, aeth y mudiad yn sir Fynwy yn afreolus, ac mewn cyfarfod dirgel yn nhafarn y Coach and Horses yn Blackwood , ddydd Gwener, 2 Tachwedd , penderfynwyd cynnal cyfarfod mawr o brotest yng Nghasnewydd yn blygeiniol fore Llun; yr oedd tri llu i ddyfod i'r dref — un, o dan arweiniad Frost , i deithio o Blackwood , un arall o dan Zephaniah Williams o Ebbw Vale , a'r llall o Bontypŵl o dan William Jones . Dryswyd eu cynlluniau gan ystorm enbyd y noson cynt, ac wedi ysgarmes o flaen y Westgate Hotel saethwyd atynt gan y milwyr a ddygasid yno tua hanner awr yn gynt. Cymerwyd Frost , Williams , a Jones i'r ddalfa, ac ar 16 Ionawr 1840 fe'u condemniwyd i'w crogi a'u chwarteru, am deyrnfradwriaeth, eithr newidiwyd y ddedfryd ac fe'u halltudiwyd am weddill eu hoes. Cyrhaeddodd Frost Van Diemens Land ar 30 Mehefin . Bu'n gweithio i gychwyn yn swyddfa penllywydd y gwarchodlu , eithr cafodd ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd gyda llafur caled am iddo ddefnyddio ymadroddion amharchus am yr arglwydd John Russell , ysgrifennydd y trefedigaethau . Cafodd bardwn amodol ym mis Gorffennaf 1854 ac aeth ar unwaith i Unol Daleithiau America ; ym mis Mai 1856 cafodd bardwn diamodol, daeth adref ym mis Gorffennaf gan ymsefydlu yn Stapleton , gerllaw Bryste , lle bu byw hyd ei f. ar 27 Gorffennaf 1877 yn ei 93 mlwydd.

Ffynonellau:

  • David Williams , John Frost, A Study in Chartism (1939) , 1939 .

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54