GIBBON, LEVI (1807? - 1870), awdur a chanwr baledi;

Enw: Levi Gibbon
Dyddiad geni: 1807?
Dyddiad marw: 1870
Priod: Ann Gibbon
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a chanwr baledi;
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

brodor o Gwmfelin-mynach, plwyf Llanboidy, Sir Gaerfyrddin; 'dyn tal, cryf, gwallt a barf ddu fel y frân,' yn ôl un disgrifiad. Y mae 35 o'i gerddi ar gael mewn print, y mwyafrif ohonynt yn trafod pynciau cymdeithasol neu ynteu'n adrodd helyntion caru. Ar ei orau, megis yn ei gerddi personol a chrefyddol, y mae'n canu'n gynnil a diffuant, ond ar y cyfan nid ymboenodd lawer â chrefft ei gerddi, ac y mae'n aml yn troseddu chwaeth dda. Yr oedd yn ddall (yn ôl un o'i faledi, o'i 25 mlwydd), a byddai ei ferched yn ei arwain o gwmpas ffeiriau'r de, un o'r cwmni'n canu'r faled ac un arall yn cyfeilio ar y ffidil. Dioddefodd lawer o galedi oherwydd ei anap, fel yr awgrymodd ef ei hun yn ei ganu, ac y mae tystiolaeth iddo ef a'i deulu dderbyn cymorth yn nhloty Caerfyrddin yn Chwefror 1844. Bu farw yn yr hen ardal ar Fanc Blaenywaun ym mhlwyf Llanwinio, 1 Awst 1870, yn 63 oed; bu farw Ann ei wraig 30 Ionawr 1897, yn 92 oed; a chladdwyd y ddau yn yr un bedd ym mynwent y Bedyddwyr yn Ramoth, Cwmfelin-mynach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.