Bu'n eithriadol boblogaidd fel pregethwr; o dan ei weinidogaeth cynyddodd aelodaeth Stamford Hill o 355 i 1,055. Yr oedd yn aelod amlwg o glwb Caleb Morris yn Llundain, a pharhaodd yn Gymro twymgalon ar hyd ei oes. Etholwyd ef yn aelod o'r comisiwn ar ‘The Church of England and other Religious Bodies in Wales and Monmouthshire’ (1910). Gwrthododd arwyddo'r adroddiad, ac ar gais Cyngor yr Eglwysi Rhyddion drwy F. B. Meyer cyhoeddodd lyfr i egluro ei safbwynt: Weighed in the Balance: The Case for Welsh Disestablishment, gyda rhagair gan D. Lloyd George, 1910. Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru (1913-4). Cyhoeddodd: The Epistle to the Galatians, 1895; The Children's Tear; The Fatherhood of God; The Disciples' Prayer.
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor