Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GILDAS ; mynach neu sant , yn y 6ed g. ,

oedd Gildas , ac iddo priodolir llyfr Lladin a adwaenir fel y De Excidio Britanniae (‘ Am Ddistryw Prydain ’), a hefyd weithiau fel Ormesta Britonniae , lle ceir ffurf Ladin ar y gair Cymraeg ‘armes’ neu ‘gormes,’ neu ynteu gymysgfa o'r ddau. Nid hanesydd oedd Gildas , ac yn sicr ddigon nid hanes yw ei lyfr, er pwysiced yw i haneswyr , ond llythyr neu epistol i argyhoeddi penaethiaid gwladol ac eglwysig y Cymry o bechod. Ei batrwm yw proffwydoliaethau proffwydi mawr yr Hebreaid , yn arbennig rhai Jeremeia . Metha ag ymatal wrth edrych ar ddrygioni'r oes; dagrau sydd yn ei lygaid, dig yn ei galon, a ffrewyll yn ei law, a ffrewyllu'n ddiarbed yw'r gorchwyl y galwyd ef i'w gyflawni. Oherwydd angerdd ei deimladau ni all fod yn deg a chymedrol ei farn, ar fyd nac eglwys. Rhagfarnau mynach oedd yr eiddo, rhagfarnau Cymro neu Frython Rhufeinig hefyd. Anodd iddo weld gwerth yng ngwaith offeiriad plwyf , a phechod anniolchgar oedd pob gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Rhufain . Cydnebydd fod rhai dynion da, rhyw ychydig, ychydig iawn, yn wir; nid enwa un. Llwfr yw'r Brython , ac anfedrus mewn rhyfel, ac eto rywsut enillasant fuddugoliaethau mawr; nid enwir ond un cadfridog llwyddiannus, ac un o deulu Rhufeinig oedd hwnnw, sef Ambrosius Aurelianus ( Emrys Wledig oes ddiweddarach), a rhaid iddo gael chwanegu fod ei epil wedi dirywio'n enbyd. Enwir pump o frenhinoedd Prydain ganddo, a dinoetha fywyd llygredig anfad pob un gan arllwys bygythion cosb dragwyddol ar ei ben.

Y pwysicaf o'r pump yw Maelgwn Gwynedd . Yn ôl yr Annales Cambriae bu hwnnw farw o'r pla mawr yn 547 . Medrir gan hynny amseru'r De Excidio cyn 547 .

Dyfynna Gildas o lythyr y Brython at y Rhufeiniad Agitius i ofyn am help yn erbyn y barbariaid; cyferchir hwnnw fel ‘conswl am y drydedd waith,’ a bu gŵr o'r enw Aelius yn y swydd honno yn 446 . Nid yw yn unman yn nodi blwyddyn unrhyw ddigwyddiad arall ag eithrio un, a llwyddodd i wneuthur hynny mewn brawddeg mor dywyll nes peri i ysgolheigion am ganrifoedd ymryson am yr ystyr. Daethai'r Saeson yma trwy ynfydrwydd teyrn ffôl (sef Gwrtheyrn ) yn eu gwahodd i fod yn filwyr cyflogedig iddo yn erbyn y Pictiaid a'r Gwyddyl . Troesant yn erbyn eu cyflogwr, a diffeithio'r ynys. Gorchfygwyd hwy mewn brwydr o'r diwedd gan Emrys . Oddi yna bu'r Brython weithiau'n drechaf, weithiau'r gelyn, am ysbaid y nodir ei derfyn fel hyn: ‘usque ad annum obsessionis Badonici montis, novissimaeque ferme de furciferis non minimae stragis, quique quadragesimus quartus ut novi orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est’ . Mae'r cymal cyntaf yn glir, ‘hyd flwyddyn gwarchae mynydd Baddon (neu Baddonig ) , y lladdfa fawr olaf bron ar y dyhirod.’ Yna daw'r aneglurder. Gorfodir dyn i'w dehongli fel hyn i gael synnwyr, ‘ac mae'r flwyddyn (hon) yn dechrau y bedwaredd flwyddyn a deugain (wedyn) — aeth un mis heibio'n barod.’ Ond yng nghanol y frawddeg drwsgl rhoddwyd ‘ut novi,’ ‘fel y gwn,’ ac â'r ddeuair hyn y cydier y cymal olaf oll, gan ddeall ‘qui’ ynddi gyda'r ferf fynegol fel rhagenw perthynol yn rhoi rheswm (=‘is enim,’ gw. Gildersleeve-Lodge , Latin Grammar , 626, ar yr ‘Explanatory relative’: ‘Qui with the Indicative (gives) a fact : and in many passages the causal sense seems to be inevitable’). Dyma'r ail fis o'r bedwaredd flwyddyn a deugain er buddugoliaeth mynydd Baddon ‘fel y gwn yn iawn, canys y flwyddyn honno oedd blwyddyn fy ngeni.’ Yr oedd Gildas yn hwylio ati i ddweud bod ei wlad wedi mwynhau heddwch rhyfeddol byth er y fuddugoliaeth fawr (a enillwyd gan Arthur , yn ôl traddodiad credadwy), ag eithrio mân frwydrau â'r Saeson a brwydrau cartrefol rhwng y Brython . Baddon oedd y lladdfa fawr olaf bron ar yr estron. Dengys hynny fod peth ymladd â hwy o hyd, ond cawsid dros 40 mlynedd o heddwch. Aethai nifer y rhai a gofiai am fuddugoliaeth Emrys ac un Arthur yn llai o flwyddyn i flwyddyn. Cododd to newydd na wyddai ddim am yr hen dymhestloedd ond a oedd wedi ymgynefino â'r hindda bresennol, ymgyfoethogi, a llygru, gan anghofio gwirionedd a chyfiawnder. Dyna rediad yr adran, ac yn ei golau rhaid esbonio'r frawddeg arweiniol afrosgo.

Barn Ussher , Mommsen , Zimmer , a Lloyd oedd fod Gildas yn cyfrif ei 44 blynedd o adeg brwydr Baddon , y flwyddyn y ganed ef ynddi. Tybia Mommsen , fodd bynnag, nad oes synnwyr yn ‘ut novi,’ a chynnig ddarllen yn eu lle ‘est ab eo qui.’ Ond ymddengys ‘ut novi’ yn anhepgor i ddeall y cymal olaf.

Ceir esboniad gwahanol, a eilw am ystyriaeth, sef yr un a seilir ar Beda , Hist. Eccl. , i, xvi, lle newidiwyd geiriau Gildas nes bod y 44 blynedd yn cyfeirio at y cyfnod rhwng dyfodiad y Saeson i Brydain a brwydr Baddon ‘quadragesimo circiter et quarto anno adventus eorum in Brittanicam.’ Ysgrifennai Beda yn 731 a gwnaeth ddefnydd helaeth o'r De Excidio : tybia De la Borderie ( Rev. Celt. , vi, 12) iddo weld testun hŷn o Gildas na'r un sydd gennym, a bod y darlleniad yn hwnnw. Ni oddef cymeriad Beda , meddai, i neb ei gyhuddo o'i ddyfeisio! Nid bai moesol yw methu â deall Lladin Gildas . Tecach yw barn Mommsen , fod y frawddeg yng nghopi Beda yn union fel y mae yn ein testun ni, iddo fethu â'i ddeall, a'i newid yn rhydd i ddull o gofnodi amser a arferai ef ei hun. Ymddengys fod amseru digwyddiad o ddyfodiad y Saeson (‘adventus Anglorum’) yn hollol y peth a ddisgwylid i Beda ei wneud, a'r peth diwethaf yn y byd i Gildas ei wneud. Gwyddys fod Beda yn rhifo felly (megis I, xxiii; II, xiv; V, xxiii). I Frython fel Gildas , cyn 547 , ac am lawer blwyddyn wedyn, blinder dros dro yng nghyrrau ei wlad oedd y Saeson , gormes wedi ei hatal, gormes oedd i ddarfod. I Sais yn 731 , hwy oedd yn meddiannu Lloegr lydan oll ac yn debyg o aros yno.

Anodd derbyn cymrodedd Plummer ( Baedae Opera , ii, 30), y gallai Beda fod yn iawn wrth roi 44 blynedd at 449 , ac amseru brwydr Baddon yn 493 ; a bod Gildas hefyd yn ysgrifennu yn 537 sef 44 blynedd ar ôl 493 . Cynnig teg ar wneud y gorau o'r ddau fyd! Nid 44 blynedd sydd gan Gildas , ond 43 o flynyddoedd a mis dros ben. Mae manyldeb o'r fath yn awgrymu ei fod yn meddwl am ei oed ef ei hun. Yn wir, tybia Zimmer ddarfod geni Gildas ar ddydd brwydr Baddon ( Nennius Vindicatus , 100), nid yn unig yn yr un flwyddyn.

Pryd, gan hynny, y bu gwarchae mynydd Baddon ? Dywed yr Annales mai 516 . Chwaneger 43, a cheir 559-60 fel adeg ysgrifennu'r De Excidio . Ni thâi hynny ddim, canys cyferchir Maelgwn ganddo fel teyrn byw a bywiog, a bu farw yn 547 medd yr Annales eu hunain. A bwrw ddarfod i Gildas ymosod arno flwyddyn ei farw, rhydd hynny 504 fel y flwyddyn olaf sy'n bosibl i frwydr Baddon , a genedigaeth Gildas , a gallant fod beth ynghynt. Rhydd yr Annales 570 fel blwyddyn ei farw ( gw. Lloyd , Hist. W. , 142 n., am yr ategion o groniclau Iwerddon ), a goddefa hynny roi ar amcan ‘ tua 500 ’ fel adeg ei eni. Dichon iddo felly adnabod pobl a welsai'r diffeithio cyntaf ar Brydain gan y Saeson yn amser Gwrtheyrn , y waredigaeth trwy Emrys , y brithfyd wedyn a ddiweddodd yng ngwynfyd buddugoliaeth Baddon , a hir hedd ieuenctid Gildas .

Mae ar glawr sylwadau ar Benyd gan Gildas , a darnau eraill digyswllt a briodolir iddo. Ysgrifennwyd dwy fuchedd iddo, un gan fynach o Ruys yng nghwr Llydaw , a'r llall, meddir, gan Garadog o Lancarfan . Yn ôl y gyntaf ganed ef ym mro ‘Arecluta’ (‘Arglud’) , sef glan afon Clud (‘ Clyde ’) yn yr Alban ; mab ydoedd i ŵr bonheddig o'r enw ‘ Caunus .’ Yn ôl yr ail, ‘ Nau ’ oedd enw ei dad, brenin Sgotland . Bai yw ‘ Nau ’ am ‘ Kau ’ (‘ Caw ’), ymgais i wneud y sant yn fab i Gaw o Brydyn (gw. ‘Gilda m. Kaw’ yn Kulhwch ac Owen , R.M. , 107, a deunaw brawd iddo). Os ‘ Caunus ’ oedd yr enw mewn Brythoneg , rhoesai ‘ Cun ’ yn Gymraeg , ‘nid ‘ Caw .’ Blin yw gogrwn y gwir o gofiannau'r saint, ond credadwy yw i Gildas fod yn ddisgybl i Elltud Sant (gw. ‘ Buchedd Paul ,’ a ysgrifennwyd yn 884 , a ddywed fod Paul , Dewi , Samson , a Gildas ‘awdur yr Ormesta Britanniae ,’ yn gyd-ddisgyblion, Rev. Celt. , v, 421), ac iddo groesi i Lydaw a sefydlu mynachlog Ruys yn Vannes . Tystir hefyd i fri Gildas ymhlith saint Iwerddon , gan y cyfeiriad ato gan yr abad Columban ( Columbanus ) mewn llythyr at y pab Gregor tua 600 . Am ei gyfraniad i'r ail don o saint Gwyddelig gw. Hugh Williams , Gildas , 416; a barn bwyllog Syr John Lloyd arno yn gyffredinol yn Hist. W. , 134-43.

Ffynonellau:

  • Yr awdurdod ar y testunau Lladin yw Mommsen ; ceir cyfieithiad Saesneg rhagorol ohonynt gyda nodiadau gan Hugh Williams , ac un Cymraeg gan J. Owen Jones . Trafodir ef gan bawb a astudiodd hanes y 6ed g. ym Mhrydain, fel na wiw dechrau enwi.

Awdur:

Athro-Emeritus Syr Ifor Williams, D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1881-1965), Pontlyfni

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54