Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GLASCOTT, CRADOCK (1743-1831), clerigwr efengylaidd brwd, a fu hefyd yn weinidog yng nghyfundeb yr arglwyddes Huntingdon. Mab Thomas Glascott, Caerdydd, ydoedd, a bu Charles Wesley (ac efallai John Wesley a Whitfield) yn lletya yn ei gartref — ‘I lodged at Mr. Glascott's’ (Charles Wesley, Journal, i, 255, 6 Tachwedd 1740). Yn y ddadl Galfinaidd (1740-1) bwriodd seiat Caerdydd ei choelbren gyda Wesley. Aeth Cradock i Goleg Iesu, Rhydychen (Foster, Alumni), graddiodd, ac ordeiniwyd ef yn Eglwys Crist, Rhydychen, yn 1765. Derbyniodd guradiaeth Cleverly, Berkshire. Gohebai yn gyson â Wesley ar y dechrau. Troes yn Galfin eithafol, bu ffrwgwd, a chollodd ei guradiaeth. Croesawyd ef gan yr arglwyddes Huntingdon, a daeth yn un o golofnau ei chyfundeb am oddeutu 14 mlynedd. Agorwyd ganddo rai o'i phrif gapelau, a safai yn rheng flaenaf ei phregethwr. Er loes iddi torrodd ei gysylltiad swyddogol â'i chyfundeb yn 1781 (gw. llythyrau'r arglwyddes ato, 25 Rhagfyr 1781 a 11 Ionawr 1782). Penodwyd ef yn ficer Hatherleigh, Dyfnaint, 1781, ac yno y bu hyd ei f. ar 11 Awst 1831. Siomwyd Wesley o'i golli o fysg ei ddilynwyr, a mwy fyth fu siom yr arglwyddes Huntingdon. Er hynny, ni pheidiodd ei sêl efengylaidd â llosgi i'r diwedd eithaf.

Llyfryddiaeth:

  • Cardiff Records, iv, 263-4 (gw. y mynegai yn cyf. vi);
  • Wesley's Jnl., 18 Hydref 1739, Standard Edition, ii;
  • Wesley's Letters, Standard Edition, vi, 210-11;
  • The Life and Times of Selina, ii, 458-64.

Awdur:

Y Parch. Daniel Williams, (1878-1968), Llangollen