GODWIN, FRANCIS (1562 - 1633), ysgolhaig, hanesydd, a hynafiaethydd

Enw: Francis Godwin
Dyddiad geni: 1562
Dyddiad marw: 1633
Rhiant: Thomas Godwin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, hanesydd, a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Glyn Roberts

Ganwyd yn Hannington, swydd Northampton, yn 1562. Dewiswyd ef yn esgob Llandaf yn 1601 yn gydnabyddiaeth am ei Catalogue of Bishops of England (arg. 1af, 1601; arg. newydd, 1615; arg. yn Lladin, 1616). Cyn hynny, bu'n dal amryw swyddi eglwysig yn ne orllewin Lloegr, lle yr oedd ei dad, Thomas Godwin, yn esgob Bath a Wells (1584-90). Cafodd ei ddyrchafu i fod yn esgob Henffordd yn 1617; yno, fel yn Llandaf, cyhuddwyd ef o Simoniaeth. Ychydig sydd ar glawr am ei hanes pan yn esgob Llandaf oddieithr iddo dreulio'i amser yn diwygio ei Catalogue, gan anwybyddu bron yn gyfan gwbl y cynnydd ymysg y Pabyddion yn yr esgobaeth. Bu farw Ebrill 1633.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.