GOODEN, JAMES (1670 - 1730), Jesiwit

Enw: James Gooden
Dyddiad geni: 1670
Dyddiad marw: 1730
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Jesiwit
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn sir Ddinbych, 1670. Addysgwyd ef yng Ngholeg S. Omer. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o Gymdeithas yr Iesu, 2 Chwefror 1706-7. Am rai blynyddoedd bu'n athro rhifyddeg ac athroniaeth yn Liege, ac o 1721-2 hyd 1728 yn warden Coleg S. Omer. Gwyddys am ddau waith o'i eiddo: Anathemata Poetica Serenissimo Walliae Principi Jacobi regis … etc. (S. Omer, 1688), a Trigonometria plana et sphaerica, … etc. (Liege, 1704). Bu farw yn S. Omer, 11 Hydref 1730.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.