GOODWIN, JOHN (1681 - 1763), gweinidog olaf y Crynwyr yng Ngogledd Cymru

Enw: John Goodwin
Dyddiad geni: 1681
Dyddiad marw: 1763
Plentyn: John Goodwin
Rhiant: Thomas Goodwin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog olaf y Crynwyr yng Ngogledd Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn 1681, yn fab, efallai, i Thomas Goodwin (gynt o Lanidloes), a oedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn Dolobran, Sir Drefaldwyn. Ymaelododd John Goodwin, c. 1708, gyda'r Crynwyr yn Llangurig a daeth yn weithiwr egnïol yn eu plith, a maes ei weinidogaeth yn ymestyn o Langurig hyd at odreon Aran Benllyn, Aran Fawddwy, a Chader Idris. Pan oedd tua'r canol oed ymwelai'n fynych â chanolfannau'r Cyfeillion yn eu cyfarfodydd blynyddol yng Nghymru a Lloegr. Ceir cyfeiriadau mynych ato yn nyddiadur John Kelsall, a thelir teyrnged iddo gan Grynwyr yn Lloegr a Pennsylvania yn eu tystiolaethau. Canolfan ei weinidogaeth oedd ei dyddyn ef ei him, sef Esgair Goch, plwyf Trefeglwys, Sir Drefaldwyn. Yn 1710 ceisiodd ganiatâd i ymfudo i Pennsylvania, ond ni fynnai'r Cyfeillion iddo ymadael oddi wrthynt; wedi marw Richard Davies, Cloddiau Cochion, edrychid arno fel blaenor yn llanw lle hwnnw a gwrthodwyd llythyr ymadawiad iddo. Y mae'n bosibl iddo symud tua diwedd ei oes i Sir Feirionnydd i areilio ei braidd yn Llwyndu (Llwyngwril) a Tyddynygarreg (ger Dolgellau) [gweler Lewis Tyddyn-y-garreg ]. Pa fodd bynnag am hynny ceir hanes am ei fab a'i ferch-yng-nghyfraith, John a Mary Goodwin, yn bedyddio merch (Sarah) yn eglwys Dolgellau (14 Tachwedd 1766) fel Crynwyr. Claddwyd ef yng ngardd gladdu Llwyndu (Llwyngwril), 12 Rhagfyr 1763.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.