GORONWY GYRIOG (fl. c. 1310-60), bardd o Fôn ;
tad, y mae'n debyg, i'r bardd Iorwerth ab y Cyriog. Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth yn ‘Llyfr Coch Hergest’ a rhai llawysgrifau eraill sy'n cynnwys awdl i Fadog ab Ierwerth (esgob Bangor) ac englynion marwnad i Wenhwyfar, gwraig Hywel ap Tudur o Fôn (brawd Goronwy Penmynydd). Ymddengys mai ef biau rhan, o leiaf, o'r farddoniaeth a briodolir i ‘Gutun Ceiriog’ a ‘Gutun Cyriog’ yn B.M. Add. MS. 14866, Cardiff MS. 26, Llanst. MSS. 47, 122, 134, Merthyr Tydfil MS., N.L.W. MSS.; 1578, 13061, a Peniarth MSS. 54, 112, 239.
Llyfryddiaeth:
- Jones a Lewis, Mynegai;
- Gwysaney MS. 25 (255);
- M.A. (Myv. Arch.), 1870, 332, 347;
- Blackwell;
- Lewis, Roberts, a Williams, I.G.E., 1925, clxx.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni