GREGORY, HENRY (1637? - 1700?), pregethwr gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol

Enw: Henry Gregory
Dyddiad geni: 1637?
Dyddiad marw: 1700?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Daeth yn arweinydd 'pobl Hugh Evans '. Sicrheir hyn gan adroddiad Henry Maurice yn 1675; dywaid fod Gregory yn henuriad athrawus i'r Arminiaid yng ngorllewin Maesyfed a gogledd Brycheiniog a gyfarfyddai yn y Cwm (Cwm Fardy yn ôl traddodiad) ym mhlwyf Llanddewi Ystradenni, yn nhŷ Peter Gregory. Nid oes air am Henry Gregory yn llyfrau 'consistory' Aberhonddu i fyny i ddiwedd 1668, ond y mae llawer gan Joshua Thomas i'w ddywedyd am brofiadau chwerw a gafodd ar ôl 1668, ac am y dynged drist a ddigwyddodd i'w erlidwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.