GRIFFITH, ALEXANDER (bu f. 1676), clerigwr a phamffledwr dadleugar.
Ar ôl gadael Rhydychen gosodwyd ef mewn bywiolaethau yn esgobaeth Bangor — Trefeglwys yn 1622, Llanwnog yn 1633; ac yn Glasbury, esgobaeth Tyddewi, yn 1639. Trowyd ef allan o Lanwnog o dan Ddeddf y Taeniad (1650-3), ac o ficeriaeth Glasbury, lle y dygwyd cyhuddiadau hyll iawn yn ei erbyn. Yn naturiol ddigon, teimlai'n ffrom iawn ynghylch holl drefn y Taeniad, ac yn enwedig yn erbyn Vavasor Powell [q.v.], nid yn unig am fod hwnnw'n bennaeth y pregethwyr crwydr ond yn gyfrifol (yn ôl Alexander Griffith) am yr eithafion yr aed iddynt wrth ddymchwel y drefn eglwysig yn Nhrefaldwyn Isaf a sir Faesyfed. Yn 1652 saernïodd betisiwn yn erbyn gweithrediadau'r Ddeddf, a chyhoeddodd bamffled yn pwysleisio'r cwynion; yn 1654 cyfleodd A True and Perfect Relation o'r hyn a ddigwyddodd yn 1652, a'i gyflwyno i'r ‘Protector’ newydd; yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y Strena Vavasoriensis, pamffled o 28 tudalen. Ynddo teflir golwg dros yrfa Vavasor o'r dechreuadau cyntaf, dychenir ei gredo a'i syniadau (ar ôl eu gwyrdroi'n glyfar), ac nid anghofir ei gasineb at Ddiffynwriaeth Cromwell — y cwbl yn llawn o ansoddeiriau brathog ac o ensyniadau cyrhaeddbell. Derbyniwyd y dystiolaeth unochrog hon — ni thalwyd ymron ddim sylw i'r Examen et Purgamen Vavasoris a ysgrifennwyd gan gyfeillion Vavasor — ymhlith beirniaid eglwysig y drefn Biwritanaidd, yn enwedig gan y Dr. John Walker yn ei Sufferings (gw. 147-70 yn y llyfr hwnnw). Annhebyg y buasai clerigwr mor anhywaith ag Alexander Griffith yn cael y ‘fifths’ a delid o dan y Ddeddf i bobl a âi allan yn dawel; ond ceir prawf ei fod yn ysgolfeistr awdurdodedig yn y Gelli o 1658 ymlaen i 1660. Gyda'r Adferiad adferwyd yntau i Glasbury; cyn 1665 yr oedd yn rheithor Llyswen yn ogystal; ar ôl 1670 y mae ym mywoliaeth Llanelieu; am rai blynyddoedd wedi 1662, eisteddai yn llys ‘consistory’ Aberhonddu fel un o gynorthwywyr yr archddiacon. Bu f. yn Glasbury ar 21 Ebrill 1676, ymron ar yr union amser pan ddisgwylid atebion y ‘census’ gan yr archesgob Sheldon; dyna, mae'n bur debyg, paham nad oes air am Glasbury yn y ‘census’ hwnnw.
Llyfryddiaeth:
- T. Richards, Religious Developments, 297-8 (teulu);
- Bodl. Rawlinson MS. c. 261 (78) (adarg. Cymd. Llên Cymru) a MS. Bodl. J. Walker, c. 7, f. 214;
- T. Richards, Hist. Pur. Mov., 280-1 (dadansoddiad o ddau bamffied);
- Strena (adarg. Cymd. Llen Cymru); Lambeth MSS. 987/54 a 639/335;
- Salt MS. (Stafford) 2112 393-6.
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor