GRIFFITHS, WILLIAM ALONZO (1842 - 1893), gweinidog Annibynnol ac emynydd

Enw: William Alonzo Griffiths
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn 1842 yn Pontargothi, ac yno yn Siloam y dechreuodd bregethu. Aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1863; urddwyd ef yn weinidog Abersychan yn 1867, ac wedi pedair blynedd yno symudodd i Shepherd's Bush, Llundain; dychwelodd i Gymru yn 1875 gan ymsefydlu yn Arberth a symud oddi yno yn 1886 i'r Sgeti, Abertawe, lle y bu farw 7 Rhagfyr 1893. Yr oedd yn llenor Cymraeg a Saesneg. Cyhoeddodd gyfrol Saesneg, Sermons preached in London, a gafodd gryn sylw ar y pryd; cyhoeddwyd llawer o'i bregethau o dro i dro yn yr Homilist. Ef oedd y cyntaf i gyhoeddi llyfr ar hanes emynwyr Cymraeg, Hanes Emynwyr Cymru - llyfr defnyddiol er gwaethaf llawer o ddiffygion. Cyfansoddodd lu o emynau a chyfieithodd amryw; ceir emyn a gyfieithodd o'r Almaeneg yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, ' Fel y mynnot, Iesu annwyl ' (rhif 564).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.