GRIFFITH (TEULU), Carreglwyd , sir Fôn .
Disgyn y teulu hwn o Ednyfed Fychan [q.v], distain Llywelyn Fawr a chyndad teulu'r Tuduriaid. Trydydd mab William Griffith Vychan o'r Penrhyn, sir Gaernarfon, oedd EDMUND GRIFFITH, Porth-yr-aur, Caernarfon, a briododd Janet, merch Maredydd ap Ieuan ap Robert, un o hynafiaid teulu Wynn o Gwydir a hendaid Syr John Wynn [q.v.], yr enwocaf o'r teulu hwn. Eu pedwerydd mab hwy oedd WILLIAM GRIFFITH (1515-1587), offeiriad. Sefydlwyd ef yn rheithor Llanfaethlu, 30 Mai 1544, collodd y fywoliaeth yr un flwyddyn, ond fe'i hadferwyd iddi yn 1558-9. Prynodd ef stad Tŷ'n-y-pant (neu Carreglwyd fel y'i galwyd yn ddiweddarach), sir Fôn, am £700, a phriododd Elizabeth, merch Gruffydd ap Robert, Carne, sir Fôn. Bu f. William Griffith yn Llanfaethlu, 17 Tachwedd 1587. Bu ei fab JOHN GRIFFITH (bedyddiwyd 1608), cyfreithiwr, yn ysgrifennydd dros dro i Henry, iarll Northampton. Pedwerydd mab William Griffith oedd ROBERT GRIFFITH (bu f. 1630) a briododd Anne, merch Owen Pritchard o blwyf Llanfflewyn (yn awr Tŷ Newydd), sir Fôn. Ganwyd iddynt hwy ddau fab eithriadol. Un ohonynt oedd WILLIAM GRIFFITH (1597-1648), offeiriad; g. 28 Hydref 1597. Addysgwyd ef yn Winchester a New College, Rhydychen; graddiodd yn 1618. Etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg. Dilynodd y gyfraith gan gymryd graddau B.C.L. yn 1622 a D.C.L. yn 1627. Bu'n ganghellor esgobaethau Bangor a Llanelwy, yn ‘Master of the Rolls (in Wales),’ ac yn 1631 dewiswyd ef yn Feistr yn y Ganghellys. Priododd Mary (bu f. 1645), merch John Owen, esgob Bangor. Bu f. o'r pla 17 Hydref 1648. Ei frawd ieuengaf oedd George Griffith (1601-1666), esgob Llanelwy [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- Papurau Carreglwyd yn Ll.G.C.;
- Trans. Angl. Antiq. Soc., 53, 71;
- Thomas, S. Asaph;
- D.N.B.;
- T. A. Glenn, Griffith of Garn (London, 1934).
Awdur:
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth